Walter Wilkins (marw 1840)
Roedd Walter Wilkins (neu Walter De Winton) (13 Hydref 1809 - 28 Mai 1840) yn wleidydd Cymreig ac yn Aelod Seneddol Chwig/Rhyddfrydol Sir Faesyfed[1]
Walter Wilkins | |
---|---|
Ganwyd | 1809 |
Bu farw | 28 Mai 1840 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | Walter Wilkins |
Mam | Catherine Elizabeth |
Priod | Julia Cecilia Stretton |
Plant | Walter de Winton |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Walter yn y Clas-ar-wy, yn fab i Walter Wilkins a Catherine Eliza Marianna Devereux merch 12fed Is-iarll Henffordd. Roedd yn ŵyr i Walter Wilkins (1741-1828) AS Sir Faesyfed rhwng 1796 a 1828.
Roedd y teulu yn honni eu bod yn disgyn o Robert De Wintona, un o gefnogwyr Robert Fitzhamon, a fu'n gyfrifol am ennill Swydd Gaerloyw a Sir Forgannwg i'r Normaniaid yn y 11g; ac mae llygriad o enw eu hynafiaid oedd Wilkins gan hynny penderfynodd y teulu gwneud cais am drwydded Frenhinol ym 1839 i newid eu henw o Wilkins i De Winton.[2][3]
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Newydd, Rhydychen
Priododd Julia Cecilia ail ferch y Parch John Collinson rheithor Gateshead, bu iddynt dau fab ac un ferch.
Gyrfa
golyguRoedd yn Ynad Heddwch ar fainc Sir Faesyfed a gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Faesyfed ym 1833
Roedd yn berchennog ystâd Castell Maeslwch ac ystâd Wallsworth Hall, Tigworth, Swydd Gaerloyw.
Gyrfa Wleidyddol
golyguGwasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Faesyfed o 1835 hyd ei farwolaeth ym 1840 yn 30 mlwydd oed[4].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ William Retlaw Williams The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 adalwyd 6 Mehefin 2016
- ↑ Maesllwch Castle 3 The family adalwyd 6 Mehefin 2016
- ↑ "Notitle - The Cambrian". T. Jenkins. 1839-07-20. Cyrchwyd 2016-06-06.
- ↑ "Breconshire - The Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian". William Mallalieu. 1840-06-13. Cyrchwyd 2016-06-06.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Thomas Frankland Lewis |
Aelod Seneddol Sir Faesyfed 1835 – 1840 |
Olynydd: Syr John Walsh |