Weiren wib
Cebl neu raff rhwng dau fan, un yn uwch na'r llall, ac i'w lawr mae reidiwr yn llithro ar harnais, sedd grog neu ddolen o ryw fath yw weiren wib neu wifren wib.
Enghraifft o'r canlynol | difyrwaith |
---|---|
Math | rhaffordd awyr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhelir weiren wib fel atyniad ar ben ei hun, neu yn reid mewn barc thema neu antur, a cheir hefyd weiren wib fer mewn parc chwarae i blant.
Lleolir y weiren wib hiraf yn Ewrop yn Zip World yn Chwarel y Penrhyn ger Bethesda, yng ngogledd Cymru.[1] Y weiren wib hiraf yn y byd yw El Monstruo ("Yr Anghenfil") yn Puerto Rico, sydd 2.5 km o hyd.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Weiren fwyaf hemisffer y gogledd, BBC (21 Mawrth 2013). Adalwyd ar 28 Hydref 2017.
- ↑ (Sbaeneg) Puerto Rico estrena el ‘zipline’ más largo del mundo, El Nuevo Día (2 Mawrth 2016). Adalwyd ar 28 Hydref 2017.