Zip World

atyniad twristiaeth yng Nghymru

Cwmni sydd yn cynnal sawl weiren wib mewn atyniadau twristaidd yng Nghymru yw Zip World. Mae un ym Methesda, Mlaenau Ffestiniog ac un ym Metws y Coed.

Zip World, Chwarel Penrhyn, Bethesda, Bangor Gwynedd - panoramio (2)
Zip World
Math
busnes
Sefydlwyd1 Mawrth 2013
PencadlysBethesda
Gwefanhttps://www.zipworld.co.uk/ Edit this on Wikidata

Cafodd maes chwarae Parc Eirias ei ail-enwi'n Stadiwm Zip World yn 2017.[1]

Zip World Velocity, Bethesda golygu

Zip World Velocity oedd yr atyniad cyntaf a greodd Zip World, ac agorodd i'r cyhoedd ym mis Mawrth 2013. Hon yw'r weiren sip hiraf yn Ewrop a'r gyflymaf yn y byd.[2]

Zip World, Blaenau Ffestiniog golygu

Mae Zip World Blaenau Ffestiniog yn cynnwys tri atyniad, sef Titan, Bounce Below a Caverns. Y weiren sip gyntaf yn Ewrop i bedwar person yw Titan. Maes trampolinau ar rwydiau tanddaearol yw Bounce Below. "Antur o dan y ddaear" yw disgrifiad Caverns.

Zip World, Coedwig Betws y Coed golygu

Chwe atyniad sydd yn Zip World, Coedwig Betws y Coed, sef Coaster (reid o gwmpas y goedwig), Plumet (tŵr sydd yn plymio), Skyride (siglen enfawr), Treetop nets (rhwydi yn uchel yn y coed), Tree hoppers (cwrs antur i blant) a Zip safari (gwifrau sy'n mynd o goeden i goeden).

Oriel Zip World, Chwarel Penrhyn golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Newid enw Parc Eirias i ‘Stadiwm Zip World’, Golwg360 (9 Awst 2017). Adalwyd ar 28 Hydref 2017.
  2. "Gwfan Zip World". Zip World. 1/12/17. Check date values in: |date= (help)