Wele'n Gwawrio
Nofel gan Angharad Tomos ydy Wele'n Gwawrio. Enillodd y nofel wobr y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997. Mae'r nofel bellach ar y cwrs haen uwch TGAU Llenyddiaeth Gymraeg.
![]() Clawr y nofel | |
Enghraifft o: | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Angharad Tomos |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 26 Awst 2004 ![]() |
Pwnc | Marwolaeth, cenedlaetholdeb, cyfeillgarwch |
ISBN | 0862434327 |
Tudalennau | 176 ![]() |
Adrodda'r nofel hanes y prif gymeriad Ennyd dros gyfnod o bythefnos adeg y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Cyflwynir ei ffrindiau anghyffredin a gwelir perthynas y prif gymeriad a hwy. Mae ymgyrchu dros yr iaith yn gefnlen i'r nofel hefyd.