Welsh Frankton
pentref yn Swydd Amwythig
Pentref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Welsh Frankton.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Ellesmere Rural yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif ar bwys y briffordd A495 rhwng Croesoswallt ac Ellesmere.
Camlas Llangollen yn Welsh Frankton | |
Math | pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Ellesmere Rural |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.886191°N 2.945151°W |
Mae'r enw "Welsh Frankton" yn atgof o'r amser pan fu'r rhan yma o Swydd Amwythig yn rhan o Deyrnas Powys. Hyd yn oed ar ôl iddo ddod yn rhan o deyrnas Mersia ac wedyn Swydd Amwythig bu nifer o Gymry yn byw yma, mewn ardal sy'n gorwedd rhwng hen gwmwd Maelor Saesneg (de-ddwyrain sir Wrecsam) a Sir Ddinbych dros y ffin yng Nghymru.
Mae Camlas Llangollen yn mynd heibio i'r pentref.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ British Place Names; adalwyd 11 Ebrill 2021