Agor y brif ddewislen
Arfbais Powys Fadog

Cwmwd canoloesol yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd Maelor Saesneg. Fe'i greuwyd tua'r flwyddyn 1202, pan gafodd cantref Maelor ei rannu yn ddwy ran gan dywysog Powys Fadog, gydag afon Dyfrdwy yn ffin naturiol rhyngddynt. Yn ddiweddarach, yn sgil concwest Edward I o Loegr (1282-83), cafodd yr enw Maelor Saesneg mewn cyferbyniaeth a'i gymydog am fod nifer o Saeson wedi ymgartrefu yno, ond serch hynny arosodd yn ardal bur Gymraeg am ganrifoedd.

Gorweddai Maelor Saesneg i'r dwyrain o afon Dyfrdwy fel tafod o dir Cymreig yn ymestyn i mewn i Loegr. Ffiniai â Maelor Gymraeg i'r gorllewin dros afon Dyfrdwy, ac â Caer, Swydd Amwythig a chwmwd Y Traean (Croesoswallt) i'r dwyrain a'r de.

Dechreuodd Maelor Saesneg fel uned dan awdurdod tywysogion Powys Fadog. Yn 1397, yn nheyrnasiad Rhisiart II o Loegr, unwyd Maelor Saesneg â Swydd Balatinaidd Caer i ffurfio Tywysogaeth Caer.

Gyda chreu Sir Fflint yn 1536, daeth yn rhan o'r sir newydd honno; cyfeirid ato'n aml yn Saesneg fel Flintshire Detached am fod rhan o Sir Ddinbych yn gorwedd rhyngddo â gweddill Sir Fflint.

Owrtyn (Saesneg: Overton) oedd ei ganolfan weinyddol. Roedd yn cynnwys ardal Hanmer, cartref yr Hanmeriaid. Roedd Margaret Hanmer, gwraig Owain Glyndŵr, yn frodor o'r ardal. Credir i'r priodas gael ei gynnal yn Hanmer ei hun, tua 1384.

Mae'r cwmwd heddiw yn rhan o ardal Maelor ym mwrdeistref sirol Wrecsam.

Yr Hen BlwyfiGolygu

Dolenni allanolGolygu