Welsh Neck
Gwladfa fach Gymraeg a sefydlwyd yn Ne Carolina ar ddechrau'r 18g oedd Welsh Neck. Erbyn heddiw mae'n rhan o dref Hartsville, Darlington County. ond coffeir yr enw o hyd yn enw eglwys leol y Bedyddwyr, Welsh Neck Baptist Church.
Enghraifft o'r canlynol | anheddiad dynol |
---|---|
Rhan o | Welsh Neck-Long Bluff-Society Hill Historic District |
Rhanbarth | De Carolina |
Daeth yr ymsefydlwyr cyntaf i ardal ar gylch mawr (neck) ar lan Afon Pee Dee, a roddwyd iddyn nhw fel grant gan yr awdurdodau gwladfaol Prydeinig, yn y flwyddyn 1734. Y Tract Cymreig (Welsh Tract) oedd ei enw. Bedyddwyr oeddynt, o ardal yn nhalaith Pennsylvania a elwid 'Welsh Neck' hefyd. Sedlwyd y 'Welsh Neck' newydd ganddynt a roddwyd yr enw 'Plwyf Dewi Sant' ar y tir o'i gwmpas. Codwyd tai a ffermydd o gwmpas yr eglwys. Tyfid hemp, fflacs ac indigo ganddynt a chodwyd gwartheg.
Dolenni allanol
golygu- Hanes Darlington County Archifwyd 2007-04-08 yn y Peiriant Wayback
- Cofnodion hanes Confensiwn Bedyddwyr De Carolina, Prifysgol Furman Archifwyd 2007-10-29 yn y Peiriant Wayback