Welshampton
Pentref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Welshampton.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Welshampton and Lyneal yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif ger tref Ellesmere, ar y briffordd A495 tua hanner ffordd rhwng Croesoswallt a Whittington. Gyda phentrefi bychain Lyneal a Colemere, mae'n rhan o'r ardal a elwir yn "Ardal y Llynnoedd Gogledd Swydd Amwythig" (North Shropshire Lake District).
Math | pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Welshampton a Lyneal |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.9104°N 2.8407°W |
Cod OS | SJ433349 |
Cod post | SY12 |
Mae'r enw "Welshampton" yn atgof o'r amser pan fu'r rhan yma o Swydd Amwythig yn rhan o Deyrnas Powys. Hyd yn oed ar ôl iddo ddod yn rhan o deyrnas Mersia ac wedyn Swydd Amwythig bu nifer o Gymry yn byw yma, yn agos i hen gwmwd Maelor Saesneg dros y ffin yng Nghymru (de-ddwyrain sir Wrecsam).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 11 Ebrill 2021