Wern Isaf

adeilad rhestredig Gradd II* yn Llanfairfechan

rhestredig Gradd II* yw Wern Isaf, sydd wedi ei leoli uwchben pentref Llanfairfechan, Conwy. Cafodd ei ddylunio a'i adeiladu gan y pensaer Herbert L. North yn 1900 yn gartref iddo fo ei hun.[1] Mae dyluniad y tŷ wedi ei ddylanwadu gan yr arddull Celf a Chrefft, gyda'r ystafelloedd yn agor i'w gilydd. Mae'n un o sawl tŷ yn The Close, ystâd agored anffurfiol o dai a ddylunwyd gan North pan oedd yn byw yn Llanfairfechan ar ddechrau'r 20g.

Wern Isaf
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1900 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanfairfechan Edit this on Wikidata
SirLlanfairfechan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr56 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2567°N 3.97109°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'r perchennog presennol, sef wyres Herbert North, yn agor y tŷ i'r cyhoedd ym mis Mawrth yn flynyddol.[2] Ymddangosodd y tŷ ar raglen deledu Y Tŷ Cymreig ar S4C yn 2008.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) HL North ar wefan y BBC
  2. (Saesneg) Wern Isaf ar wefan Stately Homes[dolen marw]
  3. Wern Uchaf ar wefan S4C[dolen marw] (yn cynnwys lluniau o'r tu mewn)
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.