Wici'r Holl Ddaear 2023, Cymru
Cystadleuaeth ffotograffiaeth rhyngwladol a gynhelir gan brosiectau Wicimedia yw Wici'r Holl Ddaear (Wiki Loves Earth), gyda 50 o wledydd yn cystadlu. Daeth Cymru'n ail i'r Almaen yn y gystadleuaeth, gyda 52 o ddefnyddwyr yn uwchlwytho'u lluniau i Gomin Wicimedia. Mae'n rhaid i'r lluniau cael eu cymryd mewn mannau cadwraethol megis Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd Harddwch Naturiol a Safle Gwyddonol Arbennig.
Yn 2023 am yr ail dro, ymunodd Llywodraeth Cymru fel un o gefnogwyr yr ymgyrch ac unwaith eto, trefnwyd yr ymgyrch gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Wikimedia UK.
Daeth Cymru'n ail yn y gystadleuaeth, allan o 50 o wledydd. Cyfrannwyd 5,026 o ffotograffau gyda llawer ohonynt yn awyrluniau a hynny gan 52 o gyfrannwyr - 22 yn fwy nag yn 2022. Mae ystadegau Cymru a gweddill y byd i'w gweld ar wikiloves.toolforge.org.
- Cyntaf: Defnyddiwr:RufusDavies
- Ail: Defnyddiwr:Dwalad
- Trydydd: Defnyddiwr:WelshCarebear
- Rhai ffotograffau eraill o Gymru
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan y Prosiect ar Comin; adalwyd 5 Rhagfyr 2023.