Parciau cenedlaethol Cymru
Darnau o dir sy'n cael eu gwarchod i'r genedl ac i'r dyfodol yw parciau cenedlaethol Cymru, sy'n 20 y cant o dir Cymru.[1]
Mae ardaloedd gwledig gorau Cymru wedi'u neilltuo'n barciau cenedlaethol neu'n Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r gyfraith wedi diogelu'r ardaloedd yma er mwyn gwarchod ac ehangu eu prydferthwch naturiol. Ceir tri pharc cenedlaethol yng Nghymru: Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri. Mae 2.9% o boblogaeth Cymru yn byw yma, ond maen nhw'n denu 22 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.
- Parciau Cenedlaethol Cymru:
Mae gan y tri pharc ddau gyfrifoldeb cyfreithiol:
- cadwraeth - gwarchod a gwella'r amgylchedd naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth diwylliannol
- hyrwyddo'r defnydd, y dealltwriaeth a mwynhad y cyhoedd o'r parciau.
Wrth wneud hyn mae ganddynt hefyd gyfrifoldeb tuag at y gymuned leol sy'n byw o fewn y parc.
PartneriaethGolygu
Mae'r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth fel 'Parciau Cenedlaethol Cymru (PCC)', sy'n hyrwyddo pwrpas a diddordebau y tri Pharc. Gwnant hyn drwy 'ddarparu ffyrdd i Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddod o hyd i faterion sydd o ddiddordeb cyffredin a chytuno ar ddulliau o'u gweithredu.' Rhennir gwybodaeth a phrofiadau rhwng cydweithwyr, gwneuthurwyr polisïau a chymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol ac ymwelwyr i'r ardaloedd hyn.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ croeso.cymru; Archifwyd 2017-12-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 22 Tachwedd 2017.