Ardaloedd Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru

ardal sy'n cael ei gwarchod

Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn ardaloedd sy'n cael eu dynodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Ceir pump Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol:

Ardaloedd Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru
Map yn dangos 5 Aardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru
Enghraifft o'r canlynolArdal o Harddwch Naturiol Eithriadol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata

Mae pedwar o'r ardaloedd yn llwyr yng Nghymru ond mae un, sef Llwybr Dyffryn Gwy yng Nghymru ac yn Lloegr.[1]

Ardaloedd Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru golygu

Mae ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cael eu hamddiffyn rhag datblygiadau tai, diwydiant ayb, tebyg i rai parciau cenedlaethol ond nad oes ganddynt bwerau cynllunio, fel sydd gan y Parciau Cenedlaethol. Maent hefyd yn wahanol i barciau cenedlaethol yn eu cyfleoedd mwy cyfyngedig ar gyfer hamdden awyr agored.[2]

Dynodwyd yr AHNE cyntaf yn y DU ym 1956 ym Mhenrhyn Gŵyr, De Cymru. Y mwyaf diweddar a gadarnhawyd yw'r rhan estynedig o AHNE Bryniau Clwyd, yn 2012, gan ffurfio AHNE Bryniau Clwydian a Dyfrdwy (neu Edeyrnion).

Ardaloedd Arfaethedig golygu

Yn 2022 cefnogodd y naturiaethwr Iolo Williams ddeiseb i wneud Mynyddoedd Cambria yn AHNE.[3] Trafodwyd y mater hyn yn Senedd Cymru ym mis Tachwedd, 2022.[4]

Yn 2023, bu mudiad yn galw am wneud Ystrad Tywi (Dyffryn afon Tywi) yn AHNE gyda'r teitl "AHNE Dyffryn Tywi".[5]

Tabl o'r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru
Enw Delwedd Arwynebedd (km sg) Manylion
Arfordir Môn   221 Dynodwyd Ynys Môn yn AHNE ym 1966, er mwyn amddiffyn apêl esthetig ac amrywiaeth tirwedd arfordirol a chynefinoedd yr ynys rhag datblygiad amhriodol. Mae'r AHNE yn cwmpasu'r rhan fwyaf o arfordir 125 milltir (201 km) Ynys Môn, yn ogystal ag ardaloedd mewndirol, megis Mynydd Caergybi a Mynydd Bodafon.[6][7][7]
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrwdwy   389 Mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Edeyrnion yn gyfres o fryniau a mynyddoedd yng ngogledd ddwyrain Cymru sy'n rhedeg o Llandegla yn y de i Brestatyn yn y gogledd, a'r pwynt uchaf yw'r Moel Famau. Fe'i dynodwyd yn AHNE ym 1985. Ymestynnwyd yr AHNE yn 2011 i gynnwys y bryniau o amgylch Llangollen, gan gynnwys yr Eglwyseg a Moel y Gamelin.[8]
Penrhyn Gŵyr   188 Penrhyn ar arfordir y de-orllewin, ar ochr ogleddol Môr Hafren yn ne-orllewin sir hanesyddol Morgannwg yw Penrhyn Gŵyr. Dyma'r ardal gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei dynodi'n AHNE.[9]
Penrhyn Llŷn   155 Penrhyn yw Pen Llŷn sy'n ymestyn 30 milltir (48 km) i Fôr Iwerddon o'r gogledd-orllewin, i'r de-orllewin o Ynys Môn. Mae llawer o'r morlin a'r bryniau cyn-folcanig yn rhan o AHNE Pen Llŷn, gan gadarnhau'r penrhyn fel un o'r pwysicaf yn wyddonol yn y wlad.[10]
Dyffryn Gwy   - Mae AHNE Dyffryn Gwy, a ddynodwyd ym 1971, yn dirwedd warchodedig o bwys rhyngwladol sy'n pontio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae'n un o'r ardaloedd tirwedd mwyaf dramatig yng Nghymru. Afon Gwy yw'r bumed afon hiraf yn y Deyrnas Unedig. Mae rhan uchaf yr afon yn mynd trwy Rhaeadr Gwy, Llanfair-ym-Muallt a'r Gelli Gandryll, ond mae'r ardal a ddynodwyd yn AHNE yn amgylchynu'r darn 58 milltir yn unig yn is i lawr yr afon, o ychydig i'r de o ddinas o Henffordd i Gas-gwent.[11]

Cyfeiriadau golygu

  1. "An Introduction to Areas of Outstanding Natural Beauty". National Association for Areas of Outstanding Natural Beauty. 12 Tachwedd 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mehefin 2013. Cyrchwyd 13 April 2011.
  2. "Areas of outstanding natural beauty (AONBs): designation and management - GOV.UK". www.naturalengland.org.uk. Cyrchwyd 16 Chwefror 2018.
  3. "Should Cambrian mountains be made an Area of Outstanding Natural Beauty?". County Times (yn Saesneg). 2022-06-17. Cyrchwyd 2023-09-13.
  4. "Y Cyfarfod Llawn - 30/11/2022". www.senedd.tv. Cyrchwyd 2023-09-13.
  5. "Campaign to name Tywi Valley an area of outstanding natural beauty". South Wales Guardian (yn Saesneg). 2023-04-13. Cyrchwyd 2023-09-13.
  6. "An Introduction to Areas of Outstanding Natural Beauty". National Association for Areas of Outstanding Natural Beauty. 12 Tachwedd 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mehefin 2013. Cyrchwyd 13 Ebrill 2011.
  7. 7.0 7.1 "The Anglesey Area of Outstanding Natural Beauty (AONB)". Isle of Anglesey County Council. 16 Rhagfyr 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mai 2011. Cyrchwyd 13 April 2011.
  8. "AONB Designation". Clwydian Range AONB. Cyrchwyd 13 Ebrill 2011.
  9. "Gower Area of Outstanding Natural Beauty" (PDF). City and County of Swansea. May 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 Mawrth 2009. Cyrchwyd 13 Ebrill 2011.
  10. "Llŷn AONB". Llŷn AONB. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 13 Ebrill 2011.
  11. "An Introduction to Areas of Outstanding Natural Beauty". National Association for Areas of Outstanding Natural Beauty. 12 Tachwedd 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mehefin 2013. Cyrchwyd 13 Ebrill 2011.