Wicipedia:Cynllun Datblygu 2
Hafan Datblygu | Cynllun Datblygu | Digwyddiadau | Cyhoeddusrwydd | Wici GLAM | Wici Addysg | Wici Cymru | Man Trafod |
Wicipedia:Cynllun Datblygu 2012-13golyguCynllun Datblygu 2012-13 (Archif) Pwrpas y Cynllun Datblygu ydy rhoi braslun o'r datblygiadau y carem eu gweld yn digwydd dros gyfnod o ddwy flynedd. Pwrpas yr adran 'Gweinyddu a Datblygu' ydy gwireddu'r hyn sydd yn y Cynllun Datblygu. Prif benawdau'r CD ydy'r TABS ar dop y dudalen. Cynllun Datblygu 2014-5golyguNodwch eich gweledigaeth yn y rhan hon, os gwelwch yn dda. Dogfen Dyfolol ein GorffennolgolyguGweler: yma; Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Fel ymateb i'r ddogfen hon, rydym wedi nodi: Drwy'r ddogfen, pwysleisir rôl y gymuned a chredwn fod hyn yn beth da. Mae'r mynediad gan y gymuned i wybodaeth hanesyddol yn greiddiol ac yn hanfodol i lwyddiant y bil. I'r perwyl hwn credwn y dylai Llywodraeth Cymru: 1. Ffurfio dogfen ar wahân ac ar unwaith a fydd yn ymchwilio i ddulliau ymarferol o drosglwyddo ffeiliau (testun, fideo, ffotograffau ayb) sydd ar hyn o bryd ar drwydded hawlfraint "Crown Copyright" (neu debyg) i drwydded agored Creative Commons (CC-BY-SA). 2. Sicrhau fod pob cynnwys a grëir gan gyrff a ariennir ganddynt: CADW, Y Comisiwn Brenhinol dros Henebiau, awdurdodau cynllunio a phartneriaid trefnadaeth ayb o hyn ymlaen yn cael eu rhoi ar drwydded agored Creative Commons (CC-BY-SA) o fewn blwyddyn i'w creu. 3. Yn gyffredinol rydym yn croesawu creu cofrestr o feysydd brwydrau. |