Wicipedia:Digwyddiadau

   Hafan Datblygu        Cynllun Datblygu        Digwyddiadau        Cyhoeddusrwydd          Wici GLAM        Wici Addysg        Wici Cymru        Man Trafod    
Cyfarfod lansio Wici Rhuthun yng Nghastell Rhuthun.
  • Cynhadledd Hacio'r Iaith ym Mangor
  • Tua 45 sesiwn hyfforddi sgiliau wici ledled Cymru
  • Cyfarfodydd yn yr Eisteddfod Llanelli.
  • Nifer o gyfarfodydd yn Wicimania.
  • Cynrychiolydd o Wicipedia yn bresennol yng Ngŵyl Golwg, Llambed
  • Lansio Wici Rhuthun: Hydref 2014.

(syniadau am y tro)
Ionawr 19:Hacio'r Iaith 2013, Aberystwyth (Trafodwch yma)
Awst:Beth am Eisteddfod Genedlaethol Dinbych?

  • Cynrychiolydd o Wicipedia yn bresennol yng Ngŵyl Golwg, Llambed

Cyfarfod o Wici Cymru

golygu

.... yn Wetherspoons, Rhuthun nos Lun (9/12/2012) am 8.00yp. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:27, 9 Rhagfyr 2012 (UTC)[ateb]

Haci-Wici: Hacio'r Iaith a'r Wicipedia Cymraeg yn Rhuthun

golygu

Cafwyd cyfarfod diddorol ar 8.11.2012 yng ngwesty'r Castell, Rhuthun lle trafodwyd popeth o Wicipedia i drydaru. Manylion / cofnodion llawn gan Rhys yn fama.

Golygathon Llenydiaeth Cymru

golygu

Ar 3 Tachwedd 2012 gwahoddwyd Carl Morris a Robin Owain i Ffair Awduron yr Academi (Llenyddiaeth Cymru) i gynnal golygathon ar Wicipedia.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Rhanwyd pabell gyda Hacio'r Iaith yn yr Eisteddfod; y teimlad cyffredinol oedd fod y bartneriaeth hon wedi bod yn llwyddiannus iawn. Cwbwlhawyd a chafwyd partneriaeth ffrwythlon, ble ceir sylwadau ar y gweithgareddau.

Ceir disgrifiad a lluniau ar flog Wicipedia yn fama.

Wicipedia:Golygathon Caerdydd 2012

golygu

Cafwyd Golygathon cyntaf y Wicipedia Cymraeg ar ddydd Sadwrn 30ain Mehefin 2012 yn Llyfrgell Canol y Ddinas, Caerdydd.

Trefniadau eraill / awgrymiadau

golygu

(e.e. Gweithdai (golygu cyffredinol, arbenigol megis ffotograffiaeth a delweddau), Golygathon, Digwyddiad GLAM, Presenoldeb mewn digwyddiadau addas (Eisteddfod Genedlaethol, digwyddiadau Hacio’r Iaith ayyb))

Golygathon Caerdydd oedd y cyntaf i Wicipedia Cymraeg ei drefnu, a'r sesiynnau gyda Hacio'r Iaith yn ail. Bydd sesiwn hyfforddi a chyflwyniad arall yng Nghaerdydd ddechrau Tachwedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:26, 4 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Wici-Wacio! Wici-Hac!

Wiki-meet yw cyfarfod o Wicipedwyr, awgrymaf Wici-Wacio fel bathiad! Unrhyw syniadau eraill? Math o Wici-Waciad oedd y Golygathon yng Nghaerdydd a gynhaliwyd Mehefin 2012. Mae gen i awydd trefnu dau: un yn Aberystwyth ac un yn Rhuthun. Sut mae'r gwynt yn chwythu? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:59, 15 Medi 2012 (UTC)[ateb]

Dw i'n cynnig Wici-gwrdd/Wici-gyfarfod (pa bynnag sy lleia anghywir yn ramadegol!). Neu hwyrach Wici-glonc (oes rhywun yn dweud clonc bellach?). Jyst unrhyw beth OND Wici-Wacio!
Mae Aberystwyth yn swnio fe lle delfrydol gan bod hi'n wybodus i mi bod sawl cyfrannwr cyson yn byw yn yr ardal, ond rhaid i'r galw ddod o fan'no. Dw i wedi symud i Rhuthun rwan a byddwn i' fodlon cwrdd.--Ben Bore (sgwrs) 21:53, 3 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Wici Hac?
Gret! Dw i'n cytuno ac mae'n bosib wici hacio mewn wici hac! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:22, 9 Hydref 2012 (UTC)[ateb]
Oni bai ein bod ni'n wirioneddol hacio'r Wici (a chreu stwnsh/mash-up), dan ni jyst yn ei olygu o, fel mewn Golygathon (uchod). Os mai cwrdd dan ni i drafod y wici, dw i'n credu bod wici-gwrdd yn cyfleu'n well sut fath o ddigwyddiad ydy o.--Ben Bore (sgwrs) 12:34, 1 Tachwedd 2012 (UTC)[ateb]