Wicipedia:Dathlu Degawd

Bydd y Wicipedia Cymraeg yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed ar 12 Gorffennaf 2013. Dyma'r lle i drafod syniadau am sut i ddathlu'r garreg filltir hon.

Cyrraedd 50,000 o erthyglau

golygu

Gobeithio, os cadwn ein trwynau i'r maen, gallwn ni gyrraedd 50,000 o erthyglau erbyn 12 Gorffennaf. Bydd gwaith botiau yn hwb mawr i'r nod hon. —Adam (sgwrscyfraniadau) 22:51, 10 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Peint o Peroni i mi! Sut gwell ffordd i ddathlu? Bydd angen cyhoeddusrwydd hefyd ac awgrymaf ei gynllunio yn yr Adran Datblygu Wici. Cofia hefyd fod cyfarfod o Wici Cymru nos fory yn Rhuthun am 7.30 os fedri di ddod, neu sgeipio. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:15, 10 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Mae gennym dros 48,000 o erthyglau bellach, yn bennaf o ganlyniad i waith aruthrol BOT-Twm Crys. Mae'r nod o fewn cyrraedd ini! —Adam (sgwrscyfraniadau) 17:54, 19 Mai 2013 (UTC)[ateb]

Mwy o ferched yn golygu!

golygu
 
"Oes raid i mi ddisgwyl am 150 mlynedd arall, cyn i Wici gyrraedd?"

Targed y ganrif: Pump arall at Deb a Lloffiwr! —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Llywelyn2000 (sgwrscyfraniadau) 10:02, 17 Chwefror 2013‎

Beth am y Steddfod leni?

golygu

Cafwyd awgrym yn y cyfarfod y dylem gael parti 10 oed Wicipedia Cymraeg yn Eisteddfod Dinbych, gan fod y ddau (bron i'r diwrnod) yn cyd-daro! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:02, 21 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Byddai'n dda cael cyfarfod am sgwrs - mi fethais y llynedd. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:37, 5 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Byddai! Be ydy trefniadau Hacio'r Iaith, bellach? Oes na le i Wici-fach-ni? Mi awgrymais ychydig yn ôl y gallem gyfrannu'n ariannol er mwyn cael lle gwell a mwy. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:24, 2 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]