Wicipedia:Hyfforddiant yn Abertawe

Mewn cydweithrediad gydag Adran Gelf a'r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe
cynhaliwyd Hyfforddiant Sgiliau Wicipedia yn y Brifysgol ar yr 28ain o Ionawr 2015.

Arweinir y prosiect
Merched yn Negydu Ffiniau Cyfiawnder
gan yr Athro Deborah Youngs, a drefnodd y Golygathon ar y cyd gyda Robin Owain o Wici Cymru.
Bydd y pwyslais ar le merched o fewn y gyfraith o'r Oesoedd Canol hyd at gychwyn y cyfnod modern.


Ble?: Ystafell Hyfforddi 3, Llyfrgell Campws Singleton
Pryd?: 28ain o Ionawr 2015
Beth oedd y nod?:Creu a gwella erthyglau am ferched o'r oesoedd Canol hyd at ddechrau'r cyfnod modern, mewn unrhyw iaith, gyda phwyslais ar ferched o Gymru ac Iwerddon.

Laurelin yn gweithio ar erthygl Roeg: Φιτζεραλντ, Κόμισσα Ντέσμοντ (Katherine FitzGerald, Iarlles Desmond).
Wici-olygu yn y Golygathon
Cydweithio ar erthygl


Bydd lle i oddeutu 40 o aelodau staff a myfyrwyr, ond gwahoddir hefyd Wicipediaid profiadol i gydweithio gyda grwpiau. Gallem gyfrannu tuag at eich costau teithio, pe dymunwch (o fannau rhesymol!).

Dyma'r ail gyfarfod yn Abertawe; roedd y cyfarfod cyntaf yn Llyfrgell y dref ar 26 Ionawr 2014.

Ail Wicigyfarfod, Abertawe; 28 Ionawr 2015

Pwrpas y dydd yw ysbrydoli myfyrwyr a staff! Cânt hyfforddiant byr ar ddechrau'r diwrnod, coffi, te a chacennau i ddilyn yna treulir gweddill y diwrnod yn gwella ethyglau ac yn creu erthyglau newydd am ferched a'r gyfraith yn yr Oesoedd Canol. Yn aml, rhoddir lle eilradd i'r ferch mewn erthyglau Wicipedia (ym mhob iaith) - fel gwraig hwn-a-hwn neu fam hwn-a-hwn. Yn aml, mae eu cyfraniad cymaint a'r gwryw, er na chofnodir hynny. Bydd ffynhonnell y testun yn ffocws i waith y diwrnod yn ogystal â chanolbwyntio ar ferched yng Nghymru ac Iwerddon.

Roedd y cyfan am ddim a darperwyd bwffet am 1.00 y pnawn. Cysylltu: y dudalen Saesneg gyfatebol ym mharth defnyddiwr Deborah Youngs.

Ffrwyth y llafur

golygu

Daeth oddeutu 40 i'r hyfforddiant - ugain yn golygu o Abertawe, ymwelwyr o adrannau eraill ac o'r llyfrgell a 4 o Brifysgol y Drindod, Dulyn. Yn dilyn y golygathon, cytunodd Adran Eiffteg y Brifysgol i roi dros 5,000 o ffotograffau ar drwydded CC-BY. Diolch i Marc am eu hysgogi!

Tudalennau newydd

golygu

Φιτζεραλντ, Κόμισσα Ντέσμοντ (Katherine Fitzgerald, Countess of Desmond in Greek)

Ymhelaethwyd yr erthyglau canlynol:

golygu

Ymarferiadau bychain:

golygu

Hyfforddwyr

golygu
  1. Defnyddiwr:Robin Owain (WMUK)
  2. Defnyddiwr:HAM II

Ymddiheuriadau

golygu
  • Toni Sant
  • Roberta Wedge

Galeri

golygu