Groeg (iaith)
Iaith Gwlad Groeg yw Groeg (Groeg: Ελληνικά), sydd yn aelod o deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn gangen ynddi'i hun. Datblygodd y Roeg gyfoes o'r hen Roeg, mae ganddi felly hanes ysgrifenedig o ryw 3,500 o flynyddoedd, sy'n hwy nag unrhyw iaith arall yn y teulu hwn. Ysgrifennir yr iaith yn yr Wyddor Roeg.
![]() | |
Enghraifft o: | iaith naturiol, iaith fyw ![]() |
---|---|
Math | Hellenic, Ieithoedd De Ewrop ![]() |
Yn cynnwys | gair Lladin neu Groeg, Hen Roeg, Groeg cyffredin, Groeg Canoloesol, Groeg Modern ![]() |
Enw brodorol | ελληνικά ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
Gwladwriaeth | Gwlad Groeg, Cyprus, Awstralia, Albania, Armenia, y Deyrnas Unedig, yr Almaen, Georgia, Yr Aifft, Israel, yr Eidal, Casachstan, Canada, Rwsia, Unol Daleithiau America, Twrci, Wcráin, Sweden, Aserbaijan, Rwmania, Abchasia ![]() |
System ysgrifennu | Yr wyddor Roeg ![]() |
Corff rheoleiddio | Canolfan yr iaith Roeg ![]() |
![]() |
Mae 24 llythyren yn yr wyddor, a chan bob un ffurf fawr a ffurf fechan.
Ymadroddion
golygu- Cwrw, os gwelwch yn dda: μια μπύρα παρακαλώ
- Ouzo, os gwelwch yn dda: ένα ούζο παρακαλώ
Hanes diweddar
golyguErbyn dechrau'r 19g, roedd diglosia yn bodoli rhwng gwahanol fathau o Roeg, traddodiad ysgrifenedig yn parhau o'r hen Roeg, a iaith lafar oedd wedi esblygu dros y canrifoedd gydag ynganiad, gramadeg a geirfa tra wahanol. Gyda thwf cenedlaetholdeb, ac wrth i ennill annibyniaeth yn y 19g a'r 20g, datblygwyd ffurf safonol o'r enw Καθαρεύουσα (Katharevousa) oedd yn anelu at burdeb ieithyddol a dychwelyd at elfennau o'r Hen Roeg. Bu cryn dadlau rhwng y sawl oedd yn arddel y ffurf yma a phobl a'r sawl oedd yn arddel ysgrifennu Δημοτική (Demotiki), sef yr iaith lafar. Er bod dylanwad Katharevousa i'w gweld o hyd, fe'i gwrthodwyd yn y diwedd, a Demotiki yw iaith swyddogol Gwlad Groeg ers 1976.
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, crebachodd yr ardal lle siaredid Groeg wrth i siaradwyr Groeg gael eu gorfodi i ffoi o'r Twrci newydd. Yn yr un cyfnod, gorfodwyd i siaradwyr Tyrceg ffoi o Wlad Groeg. Trwy'r 20g, mae nifer siaradwyr ieithoedd brodorol eraill yr hyn sydd bellach yn Wlad Groeg, megis Iddew-Sbaeneg, Ieithoedd Slafonaidd fel Macedoneg a Bwlgareg, ac Aromaneg wedi lleihau - erbyn hyn (2025) mae 99.5% o boblogaeth y Wlad yn siarad Groeg.
- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
- ↑ https://www.ethnologue.com/language/ell. dyfyniad: Total users in all countries: 13,156,880. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2018.