Wicipedia:Llwybr yr Arfordir/Intro
Mae Prosiect Llwybrau Byw! wedi'i sefydlu ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n dilyn holl arfordir Cymru am 870 milltir (1,400 km) o gyrion Glannau Dyfrdwy yn y gogledd i Gas-gwent yn y de. Agorwyd y llwybr yn swyddogol ar 5 Mai 2012 ond mae'n cynnwys sawl llwybr hŷn megis Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Llwybr Arfordir Sir Benfro. Mae'n nadreddu drwy ddau Barc Cenedlaethol, tair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac 11 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Dau brif fwriad y Prosiect yw rhyddhau cynnwys i'r parth cyhoeddus ac i hyfforddi golygyddion newydd. Ychwanegwyd tua 25 o fideos hyfforddi yn yr adran Hyfforddi yn Yr Adran Gymorth a cheir tiwtorial i gychwynwyr sut i brawfddarllen ac ehangu erthyglau yn fama.
Os ydych yn dymuno hyfforddiant sgiliau-wici gadewch neges ar y dudalen Sgwrs.