Wicipedia:Tiwtorial (Cofrestru)

Cyflwyniad   Golygu   Chwilio   Dolennau   Ffynonellau   Mewngofnodi   Sgwrs   Ymestynol   Arall    

Mae cofrestru dan enw defnyddiwr yn ddewisol, ond fe'i anogir.

Gall pawb gyfrannu i Wicipedia, hyd yn oed os nad oes cyfrif ganddynt. Wedi dweud hynny, mae yna lawer o fanteision dros gofrestru gan ddefnyddio enw defnyddiwr;

  • Cewch y gallu i greu erthyglau newydd.
  • Mae bod â chyfrif yn rhoi nodweddion ychwanegol i chi, gan gynnwys mwy o ddewisiadau golygu a dewisiadau defnyddiwr. Mae'r rhestr wylio yn nodwedd a ddefnyddir yn aml, oherwydd ei bod yn cadw cofnod o newidiadau i erthyglau rydych yn "cadw llygad" arnynt. Nodwedd ddefnyddiol arall yw symud neu ailenwi tudalen. (Peidiwch â symud tudalennau trwy gopïo a phastio oherwydd ni chedwir cofnodion hanes wrth wneud hyn. Mae'n well gofyn am gymorth yn Y Ddesg Gymorth neu'r Caffi os ydych ar goll (ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig yn unig).
  • Adnabyddir defnyddiwr anghofrestredig gan gyfeiriad IP, a ddefnyddir fel dynodwr cyhoeddus wrth wneud cyfraniadau (a sylwadau llofnodi ar dudalennau sgwrs). Gall eich cyfeiriad IP gael ei ddefnyddio weithiau i gael gwybodaeth amdanoch chi, felly mae cofrestru yn gwella eich preifatrwydd. Hefyd, oherwydd bod cyfeiriadau IP yn newid yn aml, mae defnyddwyr anghofrestredig weithiau yn ei chael yn anodd ennill parch a chydnabyddiaeth gan olygyddion eraill drwy adeiladu enw da. Gall hefyd fod yn anodd parhau â sgwrsio gyda defnyddwyr nad ydynt yn gofrestredig oherwydd bod dim tudalen sgwrs unigryw ganddynt.
  • Dim ond defnyddwyr cofrestredig sydd â'r caniatâd i fod yn weinyddwyr (hefyd a elwir yn sysops; system operators, h.y., gweithredwyr system). Os fyddwch yn cofrestru, peidiwch ag anghofio eich cyfrinair neu'ch enw defnyddiwr. Os ydych yn tueddu anghofio hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi eich cyfeiriad e-bost a'i wirio pan fyddwch yn cofrestru er mwyn i chi fedru cael cyfrinair newydd os fyddwch yn anghofio eich cyfrinair presennol.

Fideos Hyfforddi

Creu cyfri (opsiynol)

Gweler Pam ddylaf greu cyfrif? am ragor o wybodaeth.


Sut i gofrestru

I gofrestru, rhowch gynnig ar y ddolen uchod, neu glicio ar y ddolen Mewngofnodi ar frig y tudalen hwn neu unrhyw dudalen arall. Nid oes dim modd (hawdd) ichi newid eich enw defnyddiwr unwaith ichi ei ddewis, felly darllenwch y polisi enw defnyddiwr cyn creu cyfrif.