Wicipedia:Tiwtorial (Cofiwch)

Cyflwyniad   Golygu   Chwilio   Dolennau   Ffynonellau   Mewngofnodi   Sgwrs   Ymestynol   Arall    


Fideos hyfforddi

Llyfrynau

Gweithdy Prawfddarllen

Sefydlwyd gweithdy prawddarllen er mwyn cywiro ac ehangu erthyglau. Ceir tiwtorial sut i wneud hyn yma, sy'n canolbwyntio ar brawfddarllen llyfrau Cymraeg (cofiannau), er y gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw erthygl sy'n ymwneud a llyfrau ar wefan Gwales.

Polisïau golygyddol

Mae yna rai pethau hanfodol pan yn golygu Wicipedia:

Testun yr erthygl

Gwyddoniadur y gallwch ei olygu ydy Wicipedia, sydd hefyd yn cynnwys rhai pynciau a fyddai'n ymddangos mewn almanac. Dylai erthyglau gynnwys gwybodaeth gwyddoniadurol am bynciau "enwog neu nodedig". Mae'r hyn a ystyrir yn enwog neu'n nodedig yn destun trafod parhaus ar Wicipedia, ond prin iawn yw'r bobl sy'n credu y dylid cynnwys erthyglau am bob person ar y ddaear, pob cwmni sy'n gwerthu unrhyw beth, neu bob stryd ym mhob dref yn y byd. Fodd bynnag, mae chwaer brosiectau ar gyfer mathau penodol o gynnwys di-wyddoniadurol e.e. y Wiciadur lle rhoddir diffiniadau o eiriau a thermau.

Er hyn, mae ein diffiniad o beth ellir ei gynnwys ar Wicipedia Cymraeg yn wahanol i ddiffiniadau ieithoedd eraill megis y Saesneg. Er enghraifft, rydym yn cynnwys erthyglau ar bethau Cymraeg (megis siopau Cymraeg, papurau bro, eisteddfodau unigol) na fyddai'n cael eu derbyn ar fersiwn Saesneg Wicipedia.

Dylid cyfrannu testun ffynhonnell wreiddiol, megis llyfr sy'n eiddo cyhoeddus i'n chwaer brosiect, Wicidestun. Mae Sefydliad Wicifryngau (Wikimedia Foundation) yn darparu nifer o brosiectau ar-lein rhydd eraill yn ogystal â Wicipedia, mewn llwyth o ieithoedd. Maent i gyd yn wicïau, sy'n golygu bod pawb yn cael eu hysgrifennu, eu golygu, a'u darllen. Sefydlwyd Wicifryngau yn 2003 gan Jimmy Wales, ac fe'i gweinyddir yn Fflorida. (Mwy am Wicifryngau)

Meta-Wici
Canolbwynt prosiectau'r Sefydliad: yn cynnwys gwybodaeth am y Sefydliad, ei brosiectau a'r meddalwedd MediaWici.
Wiciadur
Geiriadur o eiriau'r holl ieithoedd, wedi'u diffinio yn y Gymraeg, sydd hefyd yn cynnwys thesawrws, odliadur, atodiadau, a mwy.
Wicilyfrau
Casgliad o werslyfrau a llawlyfrau er mwyn dysgu ieithoedd, gwyddorau, celfyddydau, gwyddoniaeth, chwaraeon, a mwy.
Comin Wicifryngau
Ystorfa ffeiliau amlgyfrwng (delweddau, ffeiliau sain a chlipiau fideo) a ddefnyddir gan yr holl brosiectau.
Wicitestun
Casgliad o destunau a dogfennau Cymraeg sydd yn y parth cyhoeddus, yn cynnwys cerddi, caneuon, llyfrau, areithiau, adroddiadau, a mwy.
Wicifywyd
Cyfeiriadur rhydd o'r holl rywogaethau, sydd yn dangos dosbarthiad tacsonomig organebau byw.
Wiciddyfynnu
Casgliad Cymraeg o ddyfyniadau o bob iaith.

Prosiectau Wicifryngau nad ydynt ar gael yn Gymraeg:

Wikinews
Newyddion rhydd eu cynnwys.
Wikiversity
Adnoddau addysg.

Am restr o'r holl brosiectau cysylltiedig, gweler y Rhestr gyflawn o brosiectau Wikimedia.

Nid Wicipedia yw'r lle ychwaith am "ymchwil wreiddiol" — hynny yw, damcaniaethau newydd, ayb.

Yn ogystal â hyn, gofynwn i awduron beidio ag ysgrifennu amdanynt eu hunain neu am eu llwyddiannau personol, gan y gall hyn arwain at fuddiannau croes (conflict of interest). Os ydych wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd, bydd rhywun arall yn ysgrifennu amdanoch yn hwyr neu'n hwyrach. Os gwelwch fanylion anghywir amdanoch eich hun, fodd bynnag, caniateir i chi eu newid.

Safbwynt ddiduedd

Polisi golygyddol Wicipedia ydy sicrhau "arddull ddiduedd." Dywed y polisi hwn y gallwn ni dderbyn yr holl safbwyntiau arwyddocaol ar fater. Yn hytrach na datgan rhywbeth o un safbwynt yn unig, rydym yn ceisio cyflwyno'r holl safbwyntiau heb roi'n barn bersonol arnynt. Ein nod yw cyflwyno gwybodaeth, ac nid perswadio. Nid yw hyn yn golygu fod disgwyl i'n herthyglau fod 100% yn "wrthrychol," am fod pob ochr mewn unrhyw anghydfod yn credu mai eu safbwynt hwy sy'n "gywir".

Mae'n dderbyniol datgan safbwyntiau mewn erthyglau, ond rhaid eu cyflwyno fel safbwynt, yn hytrach nag fel ffaith. Mae hefyd yn syniad da i briodoli'r safbwyntiau hyn, er enghraifft "Dywed cefnogwyr o'r mater fod..." neu "Cred y sylwebydd nodedig X fod..."

Efallai y byddwch yn clywed Wicipedwyr yn cyfeirio at erthygl gan ddefnyddio'r talfyriad "POV" (o'r Saesneg: "Point of View"). Byrfoddau Wicipedia yw hyn am erthygl sy'n cynnwys barn neu safbwynt unigol. Byddai hysbysebu'n disgyn i'r categori hwn, fel y byddai areithiau gwleidyddol hefyd. Mewn achos llai difrifol, efallai fod problemau "POV" gan erthygl os yw'n treulio llawer mwy o amser yn trafod un safbwynt na safbwynt arall sydd yr un mor ddilys, hyd yn oed os yw'r ddwy safbwynt yn cael eu cyflwyno'n wrthrychol.

Os ydych yn bwriadu treulio amser ar erthyglau ar faterion dadleuol fel crefydd neu wleidyddiaeth, mae'n hanfodol bwysig eich bod yn darllen y dudalen polisi arddull ddiduedd cyn gynted a phosib.

Nodi ffynonellau

Ar gyfer Wicipedia mae angen i chi nodi ffynhonnell ar gyfer y wybodaeth rydych yn cyfrannu. Dylid rhestru pob ffynhonnell mewn adran a elwir "Cyfeiriadau". Os yw unrhyw wefan o ddefnydd i ddarllenydd erthygl, dylid eu rhestru a'u dolenni yn yr adran "Dolenni allanol", tra bod llyfrau o ddiddordeb penodol yn cael eu rhestru yn yr adran "Darllen pellach", ond dim ond os na chawsant eu defnyddio fel ffynonellau yn yr erthygl. Mae dyfyniadau'n cynorthwyo'r darllenwyr i wirio'r hyn rydych wedi ysgrifennu ac i ddarganfod mwy o wybodaeth.

Gweler yma am fwy o wybodaeth.

Ceir tiwtorial ar hyn yma.

Hawlfreintiau

Peidiwch a chyflwyno deunydd sydd â hawlfraint arno heb ganiatad. Pan yn ychwanegu gwybodaeth at erthygl, sicrhewch ei fod wedi cael ei ysgrifennu yn eich geiriau eich hun. Cofiwch fod pob darn o wybodaeth ar y we wedi ei hawlfreintio, oni noda'r wefan yn wahanol.

Am fwy o wybodaeth, gweler Wicipedia:Hawlfreintiau.

Ymddygiad

Annoga Wicipedia awyrgylch gyfeillgar ac agored. Yn naturiol, ceir adegau pan fo anghytundeb ac ambell i drafodaeth danllyd, ond disgwylir i aelodau'r gymuned ymddwyn mewn modd gwrtais.

Y peth pwysicaf i gofio yw y dylech gymryd ewyllys da yn ganiataol. Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod rhywun yn gweithredu allan o faleisdra neu anghwrteisi. Os yw rhywun yn gwneud rhywbeth sy'n eich digio, gadewch neges gwrtais ar dudalen sgwrs yr erthygl briodol, gan ofyn pam. Mae'n bosib eich bod yn darganfod eich bod wedi camddeall y sefyllfa a thrwy ymateb fel hyn byddwch yn osgoi codi cywilydd arnoch eich hun.

Am drafodaeth fanylach am ymddygiad, gweler Wicipedia:Moesgarwch.


Parhau â'r tiwtorial gyda Cofrestru