Wicipedia:Tiwtorial (dolenni Wicipedia)
Blwch cymorth:
Mynegai: Tiwtorial · Canllaw Pum Munud · Cwestiynau Cyffredinol / FAQs · Gofynwch Gwestiwn · Geirfa · Y Ddesg Gymorth · Chwilio'r holl Pynciau |
Cyflwyniad | Golygu | Chwilio | Dolennau | Ffynonellau | Mewngofnodi | Sgwrs | Ymestynol | Arall |
Mae cysylltu erthyglau â'i gilydd drwy ddolennau yn un o brif gonglfaeni Wicipedia ac yn hawdd i'w gwneud. Mae hyn yn galluogi'r defnyddiwr i gael gwybodaeth ychwanegol sy'n ymwneud â'r erthygl mae'n ei ddarllen.
Sut i gysylltu
I greu dolen i dudalen arall ar Wicipedia (dolen a elwir yn ddolen wici), rhowch ddau bâr o gromfachau sgwâr o'i amgylch, fel hyn:
- [[Pwll tywod]] = Pwll tywod
Os hoffech gysylltu i erthygl, ond am ddangos peth testun ychwanegol neu wahanol ar gyfer y ddolen, gallwch wneud hynny drwy ychwanegu pibell "|" (SHIFFT + BLAEN-SLAES ar fysellfyrddau y DU), ac yna'r enw gwahanol yn dilyn. Er enghraifft:
- [[Tudalen darged|y testun a arddangosir]] = y testun a arddangosir
Gallwch gysylltu i ran arbennig o dudalen hefyd drwy deipio hyn:
- [[Tudalen darged#Adran darged|y testun a arddangosir]] = y testun a arddangosir
Os hoffech i'r testun a arddangosir yn y ddolen ddangos fel testun ffont bras neu italig, rhowch y cromfachau sgwâr dwbl o fewn collnodau sy'n cyfleu testun bras neu italig, fel hyn:
- ''[[Cysgod y Cryman]]'' = Cysgod y Cryman
Fideos Hyfforddi
Ceir fideo sy'n dangos sut i greu dolen syml yn yr Adran Tiwtorial -> Golygu. Mae'r canlynol ychydig bach yn fwy cymhleth gan ei fod yn ehangu ar yr wybodaeth yma.
Gwiriwch eich dolenni os gwelwch yn dda er mwyn sicrhau eu bod yn cyfeirio at yr erthygl gywir. Er enghraifft, mae rhufeinig yn arwain y dudalen gwahaniaethu o'r un enw; os mai cyfeirio at y Rhufeiniaid yng Nghymru mae'r gair yna dylid rhannu'r ddolen gyda pheipan fel hyn: [[Y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeinig]] sy'n rhoi dolen yn syth i'r erthygl gywir.
Fel y soniwyd, ceir tudalennau "gwahaniaethu" -- nid erthyglau mo'r rhain, ond tudalennau sy'n cynnwys dolenni i erthyglau gydag enwau tebyg. Mae rhai fel Apple (disambiguation) yn amlwg, tra bod eraill fel Georgia yn defnyddio teitlau generig. Mae'r teitlau gwahaniaethol hyn yn gwneud dolennau piben yn arbennig o ddefnyddiol, am fod dolen i Georgia (gwlad) yn llawer llai darllenadwy na dolen biben o'r enw Georgia.
Pryd i ddefnyddio dolen
Mae ychwanegu dolenni yn gwneud erthygl yn fwy defnyddiol, ond gall gormod o ddolenni dynnu sylw oddi ar yr erthygl. Dyma pam y dylech greu dolen pan fo geiriau'n ymddangos am y tro cyntaf yn unig. Gall y brif adran gynnwys mwy o ddolenni.
Gallai edrych ar erthyglau eraill ar Wicipedia eich cynorthwyo i wybod pryd i ychwanegu dolen. Gweler y dudalen erthyglau dethol am restr o erthyglau o safon uchel.
Categorïau
Gallwch osod eich erthygl mewn categori gydag erthyglau tebyg. Yn syml, teipiwch [[Categori:]], a rhowch enw'r categori rhwng y colon a'r cromfachau.
Mae'n bwysig iawn eich bod yn gosod y categorïau cywir er mwyn o bobl eraill fedru dod o hyd i'ch gwaith yn rhwydd. Y ffordd orau i ddod o hyd ymha gategorïau i roi'ch erthygl, edrychwch ar dudalennau ar bynciau tebyg, ac edrychwch i weld pa gategorïau maen nhw wedi defnyddio. Er enghraifft os ydych yn ysgrifennu erthygl am fath o goeden, byddai'n syniad da i chwilio am erthygl am fath wahanol o goeden er mwyn cael gweld pa gategorïau'n fyddai'n briodol.