Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Streic Chwarel Penrhyn

Chwarel y Penrhyn tua 1900.

Weithred Ddiwydiannol a barhaodd rhwng 1900 a 1903 oedd Streic Chwarel y Penrhyn.


Ar 22 Tachwedd 1900 aeth bron i dair mil o ddynion Chwarel y Penrhyn, a oedd yn eiddo i'r Arglwydd Penrhyn, ar streic.  Cafodd y chwarelwyr eu cloi allan am dair blynedd ac ni fu ardal Bethesda, Gwynedd, yr un fath wedyn.  Hwn oedd anghydfod hiraf Prydain.[1]

Achosion

golygu

Yn 1896, cafodd y chwarelwyr eu cloi allan am oddeutu un mis ar ddeg oherwydd anghytundeb rhwng y meistr a'r gweithwyr ynglŷn ag isafswm cyflog.  Bu’n rhaid i'r chwarelwyr ddychwelyd at eu gwaith bryd hynny heb ddatrys yr anghydfod. Yna ym mis Ebrill 1900 roedd rheolwr chwarel y Penrhyn, E. A. Young, wedi datgan na ddylid casglu tâl undebaeth yn y gweithle.  Roedd yr Arglwydd Penrhyn, perchennog y chwarel, am ddileu dylanwad Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn y chwarel.  Oherwydd y gwrthwynebiad i'r penderfyniad fe waharddwyd rhai o'r dynion rhag dychwelyd at eu gwaith, ac yn dilyn hyn aeth 2,800 o'r gweithwyr ar streic.  Roedd yr undeb yn cefnogi galwad y chwarelwyr am dâl gwell ac amodau gwaith mwy diogel ond gwrthododd yr Arglwydd Penrhyn y cais yma ac arweiniodd hyn at argyfwng cau allan y Penrhyn.

 
Gosodwyd arwyddion yn ffenestri rhai o'r tai yn datgan 'Nid oes bradwr yn y tŷ hwn'

Terfysgoedd 1901

golygu

Ar 11 Mehefin fe ddychwelodd pedwar cant o'r dynion yn ôl at eu gwaith, gan dderbyn sofren yr un ac addewid o 5% o godiad cyflog.  Achosodd hyn chwerwder mawr yn yr ardal a datblygodd y drwgdeimlad yn drais erbyn diwedd 1901 pan dorrwyd ffenestri tafarndai a thai y gwŷr a oedd wedi dychwelyd i'r Penrhyn.  Gosodwyd arwyddion yn ffenestri rhai o'r tai yn datgan 'Nid oes bradwr yn y tŷ hwn'.  Yn fuan wedyn, danfonodd Prif Gwnstabl Sir Gaernarfon filwyr i Fethesda, ac Ynad Heddwch gyda hwy i ddarllen y Ddeddf Derfysg i'r streicwyr.

Diwedd y streic

golygu

Dychwelodd y chwarelwyr at eu gwaith ym mis Tachwedd 1903 heb ddatrys problem cydnabod hawliau undebol.  Cafwyd colledion o £360,000 mewn cyflogau dros y tair blynedd ac ni ddychwelodd un rhan o dair o'r gweithlu fyth yn ôl i'r Penrhyn.  Yn dilyn buddugoliaeth yr Arglwydd Penrhyn, gwelwyd dechrau'r dirywiad yn y diwydiant llechi, diwydiant a oedd mor bwysig i gymdeithas yr ardal hon o Gymru. Rhannodd y streic y gymuned Gymraeg eu hiaith a gadawodd miloedd o bobl yr ardal heb ddychwelyd byth.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ymgyrchu! - Brwydrau Llafur". web.archive.org. 2013-09-22. Cyrchwyd 2020-03-10.
  2. "Cefnogi astudiaeth fanwl 1900–1918". resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com. Cyrchwyd 2020-03-10.