Wicipedia:WiciBrosiect Addysg

Wiciaddysg logo
Wiciaddysg logo

Gweld erthyglau drafft

Y prosiect golygu

Croeso i'r dudalen Prosiect Wici Addysg. Roedd hyn yn prosiect gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar y cyd gyda WiciMôn. Ariannwyd y prosiect gan Llywodraeth Cymru am cyfnod penodol rhwng Medi 2019 a Medi 2020.

Mae ymchwil yng Nghymru a thu hwnt wedi dangos tro ar ôl tro, bod rhan fwyaf o blant ysgol yn defnyddio Wicipedia er mwyn cyflawni gwaith cartref a gwaith cwrs. Os mae disgyblion yn ofalus, ac yn gwirio ffeithiau trwy'r cyfeiriadau a rhestrau darllen gall Wicipedia fod yn ffynhonnell ddefnyddiol iawn i'r maes addysg. Mae gan y Wicipedia Saesneg 6 miliwn erthygl gyda miloedd o wirfoddolwyr yn creu, gwella a chywiro erthyglau pob dydd.

Tua 130,000 o erthyglau sydd efo ni yn y Gymraeg, ond oherwydd maent ein cymuned mae llai o olygwyr ar gael i gywiro, gwella, ehangu neu greu cynnwys. Felly mae rhaid i lawer o blant ysgol trwy i'r Saesneg er mwyn dod o hyd i wybodaeth gyflawn. Yn ddelfrydol dyle bod modd i bob plentyn yng Nghymru dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fel ymateb i'r broblem yma bu prosiect Wici Addysg yn anelu at ddechrau gwella'r sefyllfa, a sefydlu fformat ar gyfer rhedeg prosiectau tebyg yn y dyfodol. Prif dargedau'r prosiect oedd;

  • Cydweithio efo athrawon Hanes i adnabod y 100 erthygl bwysicaf i ddisgyblion.
  • Cydweithio efo athrawon i greu templed ar gyfer erthyglau sydd yn caniatáu cyflwyno gwybodaeth sydd yn addas a defnyddiol i blant Cyfnod Allweddol 2-5.
  • Adnabod a defnyddio adnoddau perthnasol sydd yn bodoli'n barod, megis adnoddau dysgu CBAC, HWB a Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Creu neu wella'r 100 erthygl a nodwyd trwy addasu testun a defnyddio gwybodaeth o'r adnoddau a nodwyd.
  • Cynllunio a chreu 10 fideo byr i gyd-fynd efo'r 10 erthygl bwysicach.
  • Cynllunio a chyflawni 4 digwyddiad prawf efo ysgolion uwchradd i greu cynnwys syml am elfennau o hanes lleol.*

* Oherwydd Pandemig Covid 19 a'r cyfyngiadau gwaith a theithio roedd rhaid i ni addasu rau elfenau o'r prosiect. Nid oedd modd i ni cyfweld ag ysgolion neu cynnal digwyddiadau efo plant trwy'r ysgolion. Felly, yn lle cynllunio a chyflawni 4 digwyddiad prawf efo ysgolion uwchradd, cwblhawyd y gwaith canlynol;

  • Cydweithio efo pobol ifanc er mwyn creu cyfres o 7 fideo yn esbonio'r gwanhaol camau o olygu Wicipedia
  • Creu 10 fideo byr ychwanegol i gydfyd efo erthyglau am bynciau Cymraeg

Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol oedd yn arwain y prosiect, gan gydweithio efo Aaron Morris, Wicipediwr Menter Môn. Mae'r Llyfrgell wedi penodi Bethan Hopkins Williams, cyn Athrawes, pennaeth Adran Hanes a swyddog Addysg efo'r Llyfrgell, fel Swyddog Wici Addysg am gyfnod o 9 mis. Hi oedd yn arwain ar y gwaith o ymchwilio a baratoi'r testun ar gyfer Wicipedia. Mae'r holl gynnwys hefyd wedi cael i brawf darllen a chywiro gan gyfieithwyr proffesiynol.

Mae fersiwn PDF o pob erthygl, a copiau o'r fideos wedi cael i llwytho i HWB ar cyfrif Llyfrgell Genelaethol Cymru.

Erthyglau golygu

Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
  Llyfrgell Genedlaethol Cymru
David Lloyd George
HWB
David Lloyd George

Cytundeb Versailles
Corfflu'r Fyddin Gymreig - Tasg Rhifedd

Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Mae erthyglau Wicipedia yn erthyglau gwyddoniadurol sydd wedi'u chreu ar gyfer gynulleidfa eang, nid plant yn unig. Yn hytrach na mynd ar drywydd creu Wicipedia ar wahân i blant, a fyddai’n ymestyn y gymuned olygu yn rhy denau, y nod oedd creu cynnwys sydd wedi’i anelu at bob oedran. Mae'r erthyglau wedi cael ei strwythuro mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n hawdd i ddisgyblion iau gael gafael ar wybodaeth allweddol, gan gynnwys gwybodaeth fanylach ar gyfer disgyblion hŷn ac oedolion pe byddent ei eisiau.

Mae'r erthyglau yn ail defnyddio testun sy'n bodoli yn barod lle bynnag y bo modd. Mae CBAC, HWB, Y Llyfrgell Genedlaeth, Yr Amgeuddfa Genedlaethol a Cymru dros Heddwch wedi rhyddhau testun ar trwydded agored er mwyn i ni addasu'r cynnwys i Wicipedia. Rydyn hefyd wedi gwneud ymchwil gwreiddiol a chyfieithu adnodda dysgu ac elfennau o erthyglau Wikipedia Saesneg lle nad oes testun ar gael yn y Gymraeg.

Templed ar gyfer erthyglau golygu

Yn ddylyn trafodaeth efo athrawon penderfynwyd ar dempled penodol ar gyfer yr holl erthyglau er mwyn creu cysondeb, i gadw'r testun yn syml ac yn ddealladwy, ac i greu dolennu amlwg at adnoddau dysgu eraill.

Mae'r erthyglau yn cynnwys gwybodlen Addysg (enghraifft i'r dde) sydd yn cyfeirio defnyddwyr i adnoddau dysgu Cymraeg gwreiddiol ble bynnag maen nhw ar gael. Ac mae pob erthygl yn rhestru'r holl adnoddau a ddefnyddiwyd i'w chreu.

Mae pob erthygl yn dechrau efo crynodeb syml o'r pwnc ac mae nifer yn cynnwys fideo, rhestrau bwledi, coeden teulu neu llinell amser. Hefyd, mae'r term Saesneg wedi ei chynnwys am termau gymleth. Mae'r strwythyr yma yn ehangu mynediad i plant o pob oedran, gan rhagdybio ni fydd llawer o plant darllen yn bellach na'r cyflwyniad. Ond i dysgyblion hyn mae yna gwybodaeth manwl am pob pwnc.

Ar gyfer pob pwnc mae yna prif Erthygl sydd yn trafod y pwnc yn fras, gyda nifer o is-erthyglau sydd efo rhagor o fanylion am bobol neu elfennau arbennig.

Rhestr o Erthyglau golygu

Dyma'r rhestr o 101 erthygl sydd wedi eu hysgrifennu neu ail ysgrifennu, safonu a gwirio fel rhan o'r prosiect. Mae'r holl adnoddau yma hefyd ar gael ar HWB.


Erthyglau ychwanegol golygu

Dyma 34 erthygl ychwanegol sydd wedi eu chreu neu wella'n sylweddol er mwyn cefnogi a cyfoethogi'r prif erthyglau uchod. Nid yw'r erthyglau hyn wedi'u gwirio'n broffesiynol.

Mae pobl ifanc yn defnyddio fideo yn gynyddol fel offeryn addysgol a byddant yn ymgysylltu'n rhwydd â fideos byr er mwyn cael mynediad i gwybodaeth. Dyma gyfres o 20 fideo byr sydd wedi eu cynnwys yn yr erthyglau perthnasol.

Roedd pob fideo’n crynhoi darnau o erthyglau a oedd yn bwriadu , neu a oedd wedi, cael eu creu ar gyfer Wicipedia, a hynny er mwyn gwella’r mynediad at wybodaeth yn y Gymraeg i blant ysgol. Bydd y fideos hefyd yn cael eu rhyddhau ar HWB. Ffilmiwyd fideos mewn arddull a oedd yn mynd i apelio tuag at bobl ifanc mewn ffordd gofiadwy a doniol, a hynny drwy ddefnyddio graffeg, lluniau a cherddoriaeth. Roedd y sgriptiau wedi eu hysgrifennu gan un o staff y Llyfrgell Genedlaethol, ac felly dim ond ffilmio a golygu a oedd ei angen.

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, yn glwm efo'r sefyllfa Covid, nid oedd modd creu'r 10 prif fideo efo 'Mewn Cymeriad' fel y trefnwyd yng ngwreiddiol, ond llwydodd Menter Iaith Môn creu'r holl fideos efo sgriptiau gan y Llyfrgell Genedlaethol a chymorth golygu gan Gwmni allanol.

Mae'r 7 fideo isod wedi cael i greu gan bobol ifanc er mwyn esbonio sut i gyfranni i Wicipedia. Gofynnwyd i 5 o bobl ifanc recordio’u hunain yn rhoi gwers diwtorial ar sut i olygu’r Wicipedia Cymraeg. Yn ffodus, roedd gennym griw o bobl ifanc a oedd yn barod i helpu. Roedd hyn oherwydd y fideo a waned ar gyfer y modiwl ‘Her y Gymuned’, fideo a oedd yn cael ei gynnig fel rhan o’r Fagloriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, braf oedd cael croesawu hen wynebau, sef cyn disgyblion o ysgol David Hughes, Ysgol Gyfun Llangefni, a disgyblion presennol Ysgol Uwchradd Bodedern. Roedd y disgyblion rhwng 17 -19. Y pwrpas tu ôl i’r prosiect hwn oedd diweddaru’r fideos tiwtorial Wicipedia Cymraeg ar wefan Wici, gan fod rhai o’r fideos wedi’u dyddio. Felly roedd cael pobl ifanc i gymryd rhan yn siŵr o ddenu to ifanc newydd. Roedd y fideos yn rhai byr, gan dynnu sylw at technegau pwysicaf Wicipedia. Roedd y fideos yn cynnwys y canlynol: Creu enw defnyddiwr, golygu, ychwanegu penawdau, dolenni, ffynonellau, lluniau ayyb. Roedd y bobl ifanc yn recordio’u hunain gan ddefnyddio Zoom/ffonau symudol. Defnyddiwyd rhaglen broffesiynol i olygu’r fideos.