Wicipedia:Y Ddesg Gyfeirio/Amrywiol

''Gofynnwch eich cwestiynau ynglŷn â phopeth arall yma gan roi cynnig yma. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (~~~~) ar y diwedd, os gwelwch yn dda.

Sut mae ychwanegu at categori ? golygu

Fy myfyrwyr wedi bod yn creu tudalennau. Gobeithio fod dim angen gormod o adolygu. Dau gwestiwn. Oes modd i ddefnyddiwr ychwanegu at gategori ? (Mi welaf fod Llywelyn2000 wedi gwneud hyn ar gyfer Ada Yonath - diolch am hynny.) Ail gwestiwn - mi welaf, hefyd, fod Llywelyn2000 wedi ychwanegi - a chyfieithu'r tecst - ar gyfer llun comin Wicipedia ar gyfer "Ada Yonath". Doeddwn i ddim yn gwybod sut i wneud hyn. Ymhle mae'r cyfarwyddiadau am rywbeth felly, os gwelwch yn dda ? --Deri (sgwrs) 08:54, 23 Mai 2016 (UTC)[ateb]

Pa hwyl! Mae'n braf eu croesawu yma i'n cornel fach glyd! Ar waelod y blwch golygu (y cod) mi fedrwch ychwanegu [[Categori:Unrhyw enw call!]] a mi wneith greu tudalen gategori newydd. Fel arfer mi fuaswn yn chwilio am gategori sy'n bodoli'n barod yn gyntaf. Mae categoriau'n dilyn ffurf goeden neu ganghennau e.e. mae Cymru, Japan, India'n perthyn i Categori:Gwledydd. Dylid defnyddio'r lluosog; ond sylwer mai'r enw unigol sydd i erthyglau. Gyda llaw, mae'r llun yn dod o Comin drwy ei alw - yr ail linell o frig y ddalen [1] Mae'r testun sy'n dilyn hefyd yn y wybodlen hon: ar y dryededd linell. ac mae croeso i ti newid y geiriad wrth gwrs! Pob hwyl arni. Os da chi awydd sesiwn o olygu ym Mangor unrhyw dro, jyst gweiddwch a mi ddo i neu rywun arall draw! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:03, 23 Mai 2016 (UTC)[ateb]

Help with translation golygu

(I apologize for posting in English ): Dear colleagues, We are organizing a project called WPWP that focus on the use of images collected as part of various contest and photowalks on Wikipedia articles across all languages and our team needs your help with translations into the language of this community. Here is the translation link: https://meta.wikimedia.org/w/index.php?title=Special:Translate&group=page-Wikipedia+Pages+Wanting+Photos&language=en&action=page&filter= I am sorry if I post in the won't venue. Thanks in anticipation. T Cells (sgwrs) 17:54, 13 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Ychwanegu Wikidata Bywgraffiadol golygu

Annwyl Gyfeillion, Dwy wedi mynd ati i baratoi tudalen ar Thomas James y Fforiwr. Dwy wedi anghofio, os y gwyddwn erioed (!), sut i ychwanegu'r blwch bywgraffiadol (Wikidata) sydd ar gael yn y tudalen Saesneg arno (Thomas James (Sea Captain). Dwy'n meddwl fy mod yn cofio y bydd yn cael ei gyfieithu yn awtomatig. Pob hwyl, --Deri (sgwrs) 10:36, 8 Ebrill 2021 (UTC)[ateb]

Shwmae Deri? Mae yna erthygl ar Thomas James (1593–1635) yn bodoli yn barod. Mae cod y dudalen yma yn dangos y wybodlen Wikidata, wedi ei addasu yn benodol ar gyfer pobl o Gymru (felly mae'n dangos dinasyddiaeth Cymru). Pob hwyl. --Dafyddt (sgwrs) 11:17, 8 Ebrill 2021 (UTC)[ateb]
Annwyl Dafyddt, Diolch. Ar ôl treulio prynhawn, mi wnes i hefyd darganfod y tudalen !! Wn i ddim sut y bu imi ei fethu y bore 'ma ! O leiaf mi ddysgais gryn dipyn amdano. Na'i ychwanegu cyfeiriadau at yr hyn sydd yno, os byddai hyn o gymorth ! Pob hwyl, --Deri (sgwrs) 15:44, 8 Ebrill 2021 (UTC)[ateb]