Wild Wales
Llyfr taith am Gymru gan y bonheddwr Fictorianadd George Borrow yw Wild Wales (Cymraeg: Gwyllt Walia), a gyhoedwyd yn 1862. Teitl llawn y llyfr yw Wild Wales : Its people, language and scenery. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel llyfr cadarn, dramatig a siriol, a'r awdur yn ddymunol ecsentrig, yn fwy na bywyd, yn ddyn llawen sydd a'i chwerthin yn canu o gwmpas y llyfr.
Fersiwn diweddar | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | George Borrow |
Gwlad | Lloegr |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1862 |
Pwnc | Cymru |
Genre | Teithlyfr |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Mae'r llyfr yn adrodd hanes profiadau personol a mewnwelediadau Borrow wrth deithio Cymru ar droed ar ôl gwyliau teulu yn Llangollen yn 1854, mae'r llyfr wedi'w dod i'w hadnabod fell ffynhonnell o wybodaeth defnyddiol am hanes cymdeithasol a daearyddol y wlad ar y pryd.
Mae'r awdur yn gwneud llawer o'r ffaith y dysgodd ei hun sut i siarad y Gymraeg a faint o syndod oedd ar y brodorion Cymreig am ei ddoniau ieithyddol, ei deithiau ei addysg a'i bersonoliaeth pan y trafodai gyda hwy.
Daw'r teitl o bennill adnabyddus yn gân darogan ganoesol a adweinir fel 'Yr Awdl Fraith'. Roedd y gerdd honno, a dadogir ar y bardd Taliesin, ymhlith y mwyaf poblogaidd o'r brudiau yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Cyfeirir at y Brythoniaid yn colli tiroedd ond yn cadw gwyllt Walia.
- Eu Ner a folant,
- Eu Hiaith a gadwant
- Eu Tir a gollant ond Gwyllt Walia.
Dolenni allanol
golygu- George Borrow, Wild Wales: Its People, Language and Scenery ar wefan A Vision of Britain through Time gan Brifysgol Portsmouth (Saesneg)