Llenyddiaeth taith
Genre lenyddol yw llenyddiaeth taith[1] sydd yn disgrifio profiadau'r awdur wrth iddynt deithio o amgylch man dieithr, gan gofnodi'r bobl, digwyddiadau, golygfeydd a theimladau. Mae'r pwnc yn debyg i gynnwys teithlyfr cyffredinol y twrist, o ran gwybodaeth am yr ardal dan sylw, ond caiff ei ystyried o'r un gwerth â llenyddiaeth greadigol, gyda naratif personol llawn myfyrdodau a barnau'r awdur, yn ogystal â sylwadau ar y gymdeithas a diwylliant lleol a chyd-destun hanesyddol. Llenyddiaeth ffeithiol ydyw fel rheol, er bod rhai llenorion taith yn euog o orliwio neu hyd yn oed ffugio'u profiadau. Mae'r nofel deithio yn ffurf ffuglennol ar lenyddiaeth taith.
Tudalen flaen How I Found Livingstone (1872), un o lyfrau'r fforiwr Henry Morton Stanley am ei deithiau trwy Affrica. | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth llenyddol |
---|---|
Math | naratif, gwaith llenyddol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er mwyn i'r gwaith gael ei ystyried yn llenyddiaeth, rhaid fod ganddo naratif cydlynus, neu fewnweledigaeth a gwerth sydd yn fwy na chofnodi dyddiadau a digwyddiadau'n unig, er enghraifft mewn dyddiadur neu log llongau. Mae llenyddiaeth sy'n olrhain anturiaethau ac archwiliadau yn aml yn cael eu categoreiddio o dan llenyddiaeth taith ond mae iddo hefyd ei genre ei hun o lenyddiaeth awyr agored; yn aml, bydd y mathau yma o lenyddiaeth yn gor-gyffwrdd heb unrhyw ffiniau cadarn.
Gellir olrhain llenyddiaeth am deithiau yn ôl i weithiau hynafol megis hanesion Herodotus a disgrifiad Pausanias o Roeg yr Henfyd. Mae esiamplau nodedig o'r Oesoedd Canol yn cynnwys hunangofiant Marco Polo ac Hanes y Daith Trwy Gymru gan Gerallt Gymro.
Gweler hefyd
golygu- Teithlun, ffilm am deithio
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Llenyddiaeth taith" yn yr Esboniadur (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Adalwyd ar 10 Gorffennaf 2024.