Wilfred Owen
Bardd yn yr iaith Saesneg oedd Wilfred Edward Salter Owen, MC (18 Mawrth 1893 – 4 Tachwedd 1918).
Wilfred Owen | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mawrth 1893 Croesoswallt |
Bu farw | 4 Tachwedd 1918 Ors |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd |
Arddull | barddoniaeth |
Prif ddylanwad | Siegfried Sassoon, John Keats, Horas, William Wordsworth |
Gwobr/au | Croes filwrol |
Magwraeth
golyguCafodd ei eni ym Mhlas Wilmot, Weston Lane, ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, yn fab hynaf i Thomas a Harriet Susan (née Shaw) a chawsant dri pllentyn arall: Harold, Colin, a Mary Millard Owen.
Roedd ei ewythr Edward Shaw Owen wedi chwarae pêl-droed dros Gymru. Yn ôl yr hanesydd Hafina Clwyd yn ei chyfrol 'Rhywbeth Bob Dydd', arferai Wilfred fynd ar ei wyliau i fferm Glan Clwyd, Rhewl ger Rhuthun. Dyma rai o gerddi'r bardd: "Dulce et Decorum Est", "Insensibility", "Anthem for Doomed Youth", "Futility" a "Strange Meeting".
Athro yn Bordeaux, Ffrainc, oedd Owen ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf (1912 ymlaen).
Un o gyfeillion y beirdd Siegfried Sassoon a Robert Graves oedd ef.
Bu Owen farw ym Mrwydr y Sambre un wythnos cyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gofal
golyguYn ôl Hafina Clwyd, Edward Shaw Owen oedd tad Wilfred_Owen, a dywed iddo chwarae i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t. 117