Ffurfiau gwahanol o'r un elfen yw isotopau; mae gan yr atomau hyn o elfen yr un rhif atomig, gan fod ganddynt yr un nifer o brotonau; mae'r rhifau màs, fodd bynnag yn wahanol gan fod ganddynt niferoedd gwahanol o niwtronau. I wahaniaethu rhwng isotopau gwahanol o'r un elfen, dilynir yr enw gan rif màs yr isotop e.e. carbon-12, carbon-14, clorin-35, clorin-37 a rhoddir y rhif màs fel uwchysgrif cyn y symbol cemegol e.e. 12C, 14C, 35Cl, 37Cl (allai ychwanegu'r rhif atomig fel isysgrif dan y rhif màs). Mae isotopau hydrogen yn anarferol gan roddir iddynt enwau penodol: Hydrogen neu protiwm (1H), dewteriwm (2H neu D) a thritiwm (3H neu T).

Isotop
Enghraifft o'r canlynolmeta-ddosbarth o'r radd flaenaf Edit this on Wikidata
Mathnuclid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Priodweddau isotopau golygu

Mae priodweddau cemegol elfen yn cael ei reoli'n bennaf gan yr electronau. Mae gan bob atom o'r un elfen yr un nifer o brotonau, felly mae ganddynt yr un nifer o electronau (mewn atom di-wefr) sy'n arwain at briodweddau cemegol sydd bron yn unfath. Mae carbon-12 a charbon-14 yn enghreifftiau da. Er bod gan y rhan fwyaf o elfennau isotopau, fel arfer dim ond un neu ddau sy'n sefydlog; mae'r isotopau eraill yn tueddu i fod yn ymbelydrol h.y. maent yn dadfeilio.

Mae màs atom yn cael effaith ar gyfradd adwaith cemegol atom neu foleciwl, gydag isotopau gyda màs uwch yn adweithio'n arafach. Dim ond effaith fach yw hon gad nid yw'r gwahaniaeth màs rhwng dau isotop yn sylweddol ar gyfer y mwyafrif o elfennau. Hydrogen yw'r unig elfen lle mae effaith y màs yn bwysig, gan fod y gwahaniaeth màs rhwng y tri isotop yn sylweddol, gyda màs dewteriwm (2H) yn ddwbl màs protiwm (1H). Gelwir yr effaith hwn yn effaith cinetig isotop.

Presenoldeb naturiol golygu

Mae'r mwyafrif o elfennau yn dangos nifer o elfennau sefydlog mewn samplau naturiol. Mae'r elfennau gydag un isotop naturiol yn cynnwys Fflworin (19F), Sodiwm (23Na) ac Alwminiwm (27Al). Mae rhai elfennau eraill yn cynnwys canrannau sylweddol o sawl isotop, gyda rhai elfennau yn cynnwys o leiaf 20% o ddau neu fwy isotop, e.e.

Defnyddio isotopau golygu

Defnyddir isotopau sefydlog ac ymbelydrol mewn nifer o feysydd gwahanol.

Isotopau sefydlog golygu

  • Labeli isotopig er mwyn dilyn llwybr atomau penodol mewn prosesau cemegol diwydiannol a phrosesau biocemegol systemau byw. Er bod eu priodweddau cemegol yn unfath, gellir eu dilyn trwy fesuriadau spectrosgopeg.
  • Dilyn mecanwaith adwaith trwy effeithiau cinetig isotop, yn enwedig trwy drawsnewid isotopau hydrogen yn benodol.
  • Sbectrosgopi niwclear magnetig a Mössbauer sy'n astudio lefelau egni tu fewn i niwclysau atomau sy'n rhan o foleciwlau.
  • Hydoddyddion ar gyfer sbectrosgopi magnetig niwclear, lle defnyddir hydoddyddion sy'n cynnwys atomau dewteriwm (2H) yn lle atomau protiwm (1H) er mwyn astudio atomau hydrogen mewn moleciwlau.

Isotopau ymbelydrol golygu