Wiliam Owen Roberts

awdur Cymraeg

Llenor o Gymro yw Wiliam Owen Roberts neu Wil Garn[1] (ganed 1960, Bangor).[2]

Wiliam Owen Roberts
Ganwyd1960 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Wiliam Owen Roberts ym Mangor a chafodd ei fagu yng Ngarndolbenmaen[1]; fe'i addysgwyd yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd yn 1981 gyda gradd mewn llenyddiaeth ac astudiaethau theatr. Astudiodd gwrs MA ar ddramâu teledu, gan ganolbwyntio ar weithiau Dennis Potter. Gweithiodd gyda chwmni theatr Cyfri Tri ac yna fel golygydd sgript gyda HTV cyn dod yn llenor llawn-amser ym 1989.[2]

Ei waith enwocaf efallai yw ei ail nofel Y Pla, sy'n seiliedig ar effaith y Pla Du yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Enillodd y nofel iddo wobr Llyfr y Flwyddyn 1988. Cyfieithwyd i'r Saesneg gan Elisabeth Roberts o dan y teitl Pestilence ym 1991,[3] ac mae hefyd wedi cael ei chyfieithu i'r Almaeneg ac Iseldireg.

Mae wedi sgriptio nifer o raglenni teledu Cymraeg yn cynnwys y ffilmiau Cymru Fach (2009) a Provence (1998) a'r cyfresi Teulu'r Mans (1987-90); Pris y Farchnad (1991-93); Yr Asembli (2000-01); ac yn gyd-awdur drama 35 Diwrnod.[4]

Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn unwaith eto yn 2009 am ei nofel Petrograd.

Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig[1] a'u tair merch.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Beti a'i Phobol - William Owen Roberts - Wil Garn - BBC Sounds". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2023-04-28.
  2. 2.0 2.1  WILLIAM OWEN ROBERTS. British Council; Contemporary Writers.
  3.  Gwybodaeth Lyfryddol: Pestilence. Gwales.
  4. 35 Diwrnod - Awduron


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.