Garndolbenmaen

pentref yng Ngwynedd

Pentref yng Ngwynedd yw Garndolbenmaen ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Gorwedd ger yr A487 tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Porthmadog. Y pentrefi agosaf yw Dolbenmaen a Bryncir. Mae'n ran o gymuned Dolbenmaen, sydd â phoblogaeth o 1,300.[1] Y Ffynnon yw papur bro Garndolbenmaen.

Garndolbenmaen
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.973°N 4.238°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH497441 Edit this on Wikidata
Map
Garndolbenmaen: canol y pentref

Yno hefyd mae stiwdio recordio Blaen y Cae, ble recordwyd albym Pep Le Pew, Un tro yn y Gorllewin a Wyneb Dros Dro, albym Gwyneth Glyn. Mae'r cynhyrchydd a'r cerddor Dyl Mei hefyd yn byw yng Ngarndolbenmaen.

Mae 58 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Garndolbenmaen,[2] mae nifer yn teithio yno o bentrefi cyfagos megis Pant Glas, Bryncir, Cwm Pennant a Golan. Mae nifer y disgyblion wedi aros yn gyson ers o leiaf ugain mlynedd. Daw tua 60% o'r disgyblion o gartrefi Cymraeg.

Eisoes mae nifer o hen fythynnod yng Ngarndolbenmaen wedi eu troi yn dai haf.

Mae Cynghorwr Sir Gwynedd ar gyfer ward Dolbenmaen, Steve Churchman, o blaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru[3], yn bostfeisr ac yn rhedeg siop yno.

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Office for National Statistics : Neighbourhood statistics : Census 2001 : Gwynedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-22. Cyrchwyd 2009-08-10.
  2.  Adroddiad Estyn, Ysgol Gynradd Garndolbenmaen (Tachwedd 2015).
  3. "Councillor manylion - Stephen W. Churchman". democratiaeth.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2021-06-23.