William Aubrey
Roedd William Aubrey (tua 1529 – 25 Mehefin 1595) yn Athro Brenhinol y Gyfraith Sifil ym Mhrifysgol Rhydychen rhwng 1553 a 1559, ac roedd yn un o gymrodyr sylfaenol Coleg yr Iesu, Rhydychen. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Aberhonddu, Bwrdeistref Caerfyrddin a nifer o etholaethau eraill.[1]
William Aubrey | |
---|---|
Ganwyd | 1529 Cantref |
Bu farw | 25 Mehefin 1595 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd, cyfreithegwr, gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd Ebrill 1554, Aelod o Senedd 1558, Member of the 1559 Parliament, Member of the 1563-67 Parliament, Member of the 1593 Parliament, Regius Professor of Civil Law |
Tad | Thomas Aubrey |
Mam | Jane ferch Thomas Fychan ap Roger ap Thomas Lloyd |
Plant | Thomas Aubrey, Richard Aubrey, Edward Aubrey |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Bywyd cynnar a Phrifysgol Rhydychen
golyguGanwyd Aubrey yn Sir Frycheiniog, yn ail fab i Thomas Aubrey, MD, Cefn Cantref.
Ar ôl cael ei addysg yn yr ysgol a enwyd yn ddiweddarach yn 'Goleg Crist', Aberhonddu, aeth Aubrey i Brifysgol Rhydychen, daeth yn gymrawd o Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen ym 1547. Cafodd radd Baglor y Gyfraith Cyffredin ym 1549 ac fe'i penodwyd yn brifathro New Hall Inn, Rhydychen ym 1550. Ym 1553, olynodd Robert Weston fel Athro Brenhinol y Gyfraith Sifil. Daliodd y swydd hyd 1559, pan gafodd ei olynu gan John Griffith. Gwasanaethodd fel barnwr-marshal y fyddin o dan arweiniad William Herbert, Iarll Penfro yn ymgyrch St Quentin, 1557.[2]
Ym 1571, cafodd ei enwi yn Siarter y Sylfaenwyr fel un o'r wyth cymrodor gwreiddiol Coleg yr Iesu, Rhydychen Cafodd y radd o Ddoethur y Gyfraith Cyffredin (DCL) ym 1554 a'r flwyddyn ganlynol cafodd ei wneud Meistr mewn Siawnsri.
Gwasanaeth Gyfreithiol
golyguYm 1562, fe fu Aubrey yn aelod o'r comisiwn a sefydlwyd gan Matthew Parker, Archesgob Caergaint a barnodd bod priodas y Ledi Catherine Grey i Henry Herbert (mab Iarll 1af Penfro) yn anghyfreithlon (bu hyn yn fodd i ddatgysylltu teulu Penfro oddi wrth ymgais aflwyddiannus y Ledi Jane Gray i hawlio Coron Lloegr) . Roedd yn un o lofnodwyr y farn gyfreithiol bod John Lesley (Esgob Ross) a llysgennad Mari, brenhines yr Alban yn gallu sefyll ei brawf yn Lloegr am gynllwynio yn erbyn y Frenhines Elisabeth, a thrwy hynny creu'r flaenoriaeth gyfreithiol bod Mari yn gallu sefyll ei phrawf, hefyd, gan greu'r llwybr cyfreithiol i gyfiawnhau ei dienyddio.
Gwasanaeth Seneddol
golyguBu Aubry yn aelod seneddol ar gyfer nifer o etholaethau seneddol gan gynnwys dwy yng Nghymru sef Bwrdeistrefi Caerfyrddin (1554) ac Aberhonddu (1558) yn ogystal â Hindon (1559), Arundel (1563), a Taunton (1592). Roedd yn aelod o Gyngor Cymru a'r Gororau o 1586.[3] Roedd hefyd yn archwilydd a ficer-cyffredinol Caergaint o dan yr Archesgob Grindal, gan gadw ei swydd fel ficer-cyffredinol o dan Archesgob Whitgift.
Marwolaeth
golyguBu farw Aubrey yn Llundain ym 1595 ac fe'i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol wreiddiol San Pawl.
Cyfeiriadau
golygu- Ian W. Archer; Religion, Politics, and Society in Sixteenth-Century England; Cambridge University Press 2004; ISBN 9780521818674
- ↑ A. H., (1953). AWBREY, (neu AUBREY), WILLIAM (c. 1529-1595), gwr o'r gyfraith sifil]. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 16 Medi 2022
- ↑ Watkin, T. Aubrey, William (c. 1529–1595), civil lawyer. Oxford Dictionary of National Biography. Adferwyd 16 Medi 2022
- ↑ Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aubrey, William ar Wicidestun
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Gruffydd Hygons |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1554 – 1554 |
Olynydd: John Parry |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: anhysbys |
Aelod Seneddol Aberhonddu 1558 – 1559 |
Olynydd: Roland Vaughan |