Aberhonddu (etholaeth seneddol)

etholaeth seneddol

Roedd Aberhonddu yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1542 hyd at 1885.

Aberhonddu
Etholaeth Bwrdeistref
Creu: 1542
Diddymwyd: 1885
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Hanes yr Etholaeth golygu

Roedd Aberhonddu yn etholaeth seneddol yng Nghymru a oedd yn dychwelyd un Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin o 1542 hyd iddo gael ei ddiddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1885.

Yn wreiddiol roedd yr Aelod yn cynrychioli rhydd-ddeiliaid holl fwrdeistrefi Sir Frycheiniog, sef tref Aberhonddu, Llywel, Talgarth, Y Gelli Gandryll a Chrucywel, ond erbyn i etholiadau cael eu cystadlu yn y 19eg ganrif dim ond bwrdeiswyr tref Aberhonddu ei hun oedd yn cael pleidleisio, does dim sicrwydd pendant pa bryd y collodd y bwrdeiswyr eraill eu hetholfraint ond tybir ei fod rhywbryd rhwng 1603 a 1715.

Hyd 1727 yr oedd holl ryddfreinwyr Aberhonddu yn cael pleidleisio, lle bynnag yr oeddynt yn byw, ond ym 1727 dyfarnodd Tŷ Cyffredin mai dim ond y rhyddfreinwyr oedd yn byw yn Nhref Aberhonddu oedd yn cael pleidleisio.

Ystyrid nifer o etholaethau bach yn eiddo teuluoedd bonheddig arbennig, perchnogion etholaeth Aberhonddu oedd Teulu Morgan Parc Tredegar.[1][2]

Diddymwyd yr etholaeth ar gyfer Etholiad cyffredinol 1885 a chynhwyswyd Aberhonddu yn rhan o etholaeth sirol Brycheiniog

Aelodau Seneddol golygu

  • 1542 - 1554 Edward Games
  • 1554 - 1555 Meredith Games
  • 1555 -1558 anhysbys
  • 1558 – 1559 William Aubrey
 
William Aubrey AS 1558-1559
  • 1559 - 1567 Roland Vaughan
  • 1567 – 1571 Syr Roger Vaughan
  • 1571 - 1572 Richard Price
  • 1572 - 1583 Walter Games
  • 1584 - 1593 David Williams
  • 1593 - 1597 Syr Matthew Morgan
  • 1597 - 1601 David Williams
  • 1601 -1614 Syr Henry Williams
  • 1614 - 1620 Syr John Crompton
  • 1620 - 1626 Syr Walter Pye
  • 1626 - 1628 Syr Henry Lynde
  • 1628 – 1640 Walter Pye
  • 1640 - 1653 Herbert Price
  • 1647 - 1653 Ludovic Lewis
  • 1653 – 1658 Dim Cynrychiolydd
  • 1658 - 1659 Samuel Wightwick
  • 1659 - 1660 anhysbys
  • 1660 - 1661 Syr Henry Williams
  • 1661 – 1678 Syr Herbert Price
  • 1678 - 1679 Thomas Mansel
  • 1679 – 1689 John Jeffreys
  • 1689 Thomas Morgan (Wig)
  • 1690 - 1698 Jeffrey Jeffreys
  • 1698 - 1701 Thomas Morgan (Wig ) (Hefyd wedi ei ethol dros Sir Fynwy)
  • 1701 - 1709 Syr Jeffrey Jeffreys
  • 1709 – 1713 Edward Jeffreys
  • 1713 – 1722 Roger Jones
  • 1722 William Morgan (Hefyd wedi ei ethol dros Sir Fynwy)
  • 1723 – 1734 Thomas Morgan
  • 1734 – 1754 Yr Anrhydeddus John Talbot
  • 1754 Thomas Morgan (Ymddiswyddodd er mwyn sefyll yn Sir Fynwy)
  • 1763 Charles Morgan (Ymddiswyddodd er mwyn sefyll yn Sir Frycheiniog)
  • 1769, John Morgan (Ymddiswyddodd er mwyn sefyll yn Sir Fynwy)
  • 1772 -1778 Charles Van
  • 1778 Syr Charles Gould (Ymddiswyddodd er mwyn sefyll yn Sir Frycheiniog)
 
Syr Charles Morgan
 
Edward Hyde Villiers, Vanity Fair, 1901-01-10

1885 Diddymwyd yr etholaeth

Etholiadau golygu

Etholiadau yn y 1830au golygu

Etholiad cyffredinol 1832: Etholaeth Aberhonddu [1]

Nifer etholwyr 242

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Lloyd Vaughan Watkins 110 51.4
Ceidwadwyr Charles Morgan Robinson Morgan 104 48.6
Mwyafrif 6
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1835: Etholaeth Aberhonddu [1]

Nifer etholwyr 309

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Charles Morgan Robinson Morgan diwrthwynebiad
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1837: Etholaeth Aberhonddu [1]

Nifer etholwyr 339

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Charles Morgan Robinson Morgan 156 60.5
Rhyddfrydol J L Lloyd 102 39.5
Mwyafrif 6
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1840au golygu

Etholiad cyffredinol 1841: Etholaeth Aberhonddu [1]

Nifer etholwyr 331

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Charles Morgan Robinson Morgan diwrthwynebiad
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1847: Etholaeth Aberhonddu [1]

Nifer etholwyr 304

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Lloyd Vaughan Watkins diwrthwynebiad
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Etholiadau yn y 1850au golygu

Etholiad cyffredinol 1852: Etholaeth Aberhonddu [1]

Nifer etholwyr 336

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Charles Rodney Morgan 159 56.6
Rhyddfrydol John Lloyd Vaughan Watkins 122 43.4
Mwyafrif 37
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Bu farw Charles Rodney Morgan ym 1854 a chynhaliwyd isetholiad ar 6 Chwefror 1854 pan ail-etholwyd John Lloyd Vaughan Watkins yn ddiwrthwynebiad gan gipio'r sedd yn ôl i'r Blaid Ryddfrydol. Ail-etholwyd Watkins yn ddiwrthwynebiad eto yn etholiadau cyffredinol 1857 a 1859.

Etholiadau yn y 1860au golygu

Etholwyd J Ll V Watkins yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1865 ond bu farw yn gynnar ym 1866. Fe'i olynwyd ar ran y Blaid Ryddfrydol gan Iarll Brycheiniog, eto'n ddiwrthwynebiad, mewn isetholiad a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 1866. Dyrchafwyd Iarll Brycheiniog i Dŷ'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad Ardalydd Camden gan achosi isetholiad arall a gynhaliwyd ar 3 Hydref 1866.

Isetholiad Aberhonddu 1866

Nifer etholwyr 281

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Howel Gwyn 128 55.7
Rhyddfrydol Yr Arglwydd A S Churchill 102 44.3
Mwyafrif 26
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1868: Etholaeth Aberhonddu [3]

Nifer etholwyr 814

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Howel Gwyn 372 51.0
Rhyddfrydol H Powell Price 357 49.0
Mwyafrif 15

Yn dilyn etholiad 1868 danfonwyd deisebau yn erbyn dychwelyd 54 o Aelodau Seneddol oherwydd cyhuddiad o lwgrwobrwyaeth ym mysg y rhain yr oedd deiseb yn erbyn Howel Gwyn. Dyfarnwyd yn erbyn Gwyn a chafodd canlyniad yr etholiad ei ddileu gan achosi isetholiad a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 1869 [4]

Isetholiad Aberhonddu 1869

Nifer etholwyr 814

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Edward, yr Arglwydd Hyde 391 54.4
Ceidwadwyr Yr Arglwydd Hamilton 328 45.6
Mwyafrif 63
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Etholiadau'r 1870au golygu

Ym 1870 dyrchafwyd Edward, Yr Arglwydd Hyde i Dy'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad Iarll Clarendon a chynhaliwyd isetholiad ar 19 Gorffennaf 1870.

Isetholiad Aberhonddu 1870

Nifer etholwyr 814

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr James Price William Gwynne-Holford 372 52.4
Rhyddfrydol H Powell Price 338 47.6
Mwyafrif 34
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1874: Etholaeth Aberhonddu

Nifer etholwyr 843

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr James Price William Gwynne-Holford 374 51.4
Rhyddfrydol W V Morgan 353 48.6
Mwyafrif 21
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn yr 1880au golygu

Etholiad cyffredinol 1880: Etholaeth Aberhonddu [1]

Nifer etholwyr 880

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Cyril Flower 438 53.6
Ceidwadwyr James Price William Gwynne-Holford 379 46.4
Mwyafrif 59
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Wales at Westminster James, Arnold J a Thomas John E Gwas Gomer 1981
  2. Y Bywgraffiadur ar-lein MORGAN (TEULU), Tredegar Park, etc., sir Fynwy http://yba.llgc.org.uk/cy/c-MORG-TRE-1384.html adalwyd Ion 6 2014
  3. Cardiff and Merthyr Guardian 28 Tachwedd 1868 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3096192/ART62 adalwyd Ionawr 6 2014
  4. Seren Cymru 18 Rhagfyr 1868 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3198026/ART42 adalwyd Ion 6 2014.