William Bagot, 3ydd Barwn Bagot
Roedd William Bagot, 3ydd Barwn Bagot DL (27 Mawrth 1811 - 19 Ionawr 1887), yn ŵr llys a gwleidydd Ceidwadol a gynrychiolodd Sir Ddinbych fel Aelod Seneddol o 1835 i 1852.[1]
William Bagot, 3ydd Barwn Bagot | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 27 Mawrth 1811 ![]() Blithfield ![]() |
Bu farw | 19 Ionawr 1887 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol ![]() |
Tad | William Bagot ![]() |
Mam | Louisa Legge ![]() |
Priod | Lucia Agar-Ellis ![]() |
Plant | Louisa Bagot, Constance Bagot, Elizabeth Bagot, Georgiana Bagot, William Bagot, 4th Baron Bagot, Katherine Bagot, Walter Bagot ![]() |
Cefndir
golyguGanwyd Bagot yn Blithfield House, Swydd Stafford; roedd yn fab hynaf i William Bagot, 2il Farwn Bagot a'i ail wraig y Fonesig Louisa, merch George Legge, 3ydd Iarll Dartmouth. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Charterhouse, yng Ngholeg Eton ac yng Ngholeg Magdalene, Caergrawnt.[2]
Gyrfa Cyhoeddus
golyguCafodd Bagot ei ethol yn Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych ym 1835, gan ddal y sedd hyd 1852. Gwasanaethodd fel is-gyrnol Bataliwn Gwŷr Meirch Iwmyn Swydd Stafford o 1854 hyd ei farwolaeth. Cynrychiolodd Sir Ddinbych fel Dirprwy Raglaw ym 1856. Ar farwolaeth ei dad ym 1856 fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi fel y trydydd Barwn Bagot. Gwasanaethodd yn y llywodraethau Ceidwadol Iarll Derby a Benjamin Disraeli fel chwip yr Arglwyddi o 1866 i 1868 ac eto o 1874 i 1880. Gwasanaethodd fel Bonheddwr y Siambr i'r Tywysog Albert rhwng 1858 a 1859.
Teulu
golyguPriododd yr Arglwydd Bagot yr Anrhydeddus Lucia Caroline Elizabeth, merch George Agar-Ellis, Barwn 1af Dover, ym 1851. Bu iddynt ddau fab a phum merch[3]. Bu eu merch Louisa yn briod a Hamar Alfred Bass o deulu Bragdy Bass ym 1879[4]. Bu farw Bagot ym mis Ionawr 1887 yn 75 oed ac olynwyd ef i'r farwniaeth gan ei fab hynaf William. Bu'r Arglwyddes Bagot farw ym mis Ionawr 1895 yn 68 oed wedi iddi oroesi'i gŵr am wyth mlynedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Robert P. Dod, The Peerage, Baronetage and Knightage of Great Britain and Ireland (Llunain: Whitaker and Co., 1860), tt.99–100
- ↑ A Cambridge Alumni Database. University of Cambridge[dolen farw]
- ↑ Memorials of the Bagot Family gan William Bagot, 2il Farwn Bagot W. Hodgetts, 1824 fersiwn arlein - [1]
- ↑ Burton on Trent Local History Hamar Alfred Bass (1842 – 1898) [2] adalwyd 15 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Robert Myddelton-Biddulph |
Aelod Seneddol Sir Ddinbych 1835 – 1852 |
Olynydd: Robert Myddleton-Biddulph |