William Brace
Gwleidydd ac arweinydd undeb Cymreig oedd William Brace (23 Medi 1865 – 12 Hydref 1947) a oedd yn Llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru rhwng 1912 ac 1915. Roedd hefyd yn Aelod Seneddol Lib-Lab San Steffan dros etholaeth De Morgannwg ac Abertyleri ac roedd yn lladmerydd brwd dros un undeb ar gyfer holl lowyr gwledydd Prydain a chafwyd sawl dadl gyhoeddus ynghylch hyn rhyngddo a Mabon (William Abraham). Rhwng 1915 ac 1919 roedd yn is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Gartref.[1]
William Brace | |
---|---|
Ganwyd | 23 Medi 1865 Rhisga |
Bu farw | 12 Hydref 1947 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | undebwr llafur, gwleidydd |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Cafodd ei eni yn Rhisga yn yr ardal lofaol o Sir Fynwy yn un o chwech o blant.[2] Wedi cyfnod yn yr ysgol gynradd aeth i weithio i bwll glo lleol yn ddim ond 12 oed ac yna ym mhyllau Celynnen ac Abercarn. Yn 1898 cafodd ei benodi'n is-lywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru a daeth yn Llywydd rhwng 1912 ac 1925. Ym 1890 cafodd ei benodi yn asiant i Undeb Llafur De Cymru ac ychydig yn ddiweddarach yn Gynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy.[2][3]
Priododd Nellie Humphreys yn 1890 a chawsant ddau o blant ac un ferch. Daeth y mab ieuengaf, Ivor Llewellyn Brace, yn Brif Farnwr Prif Lys Sarawak, Gogledd Borneo a Brunei.[2]
Bu farw ar ôl gwaeledd hir yn ei gartref yng Ngallt-yr-ynn, Casnewydd yn Hydref 1947 yn 82 oed.[2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Argraffwyd 2008; tudalen B89.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) "Brace, William (1865–1947), undebwr llafur". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/47328.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ 3.0 3.1 "Obituary: Mr. William Brace. Service In South Wales Coalfield". The Times. 14 Hydref 1947. t. 6.