William Bulkeley (bu farw 1549)
Roedd William Bulkeley (tua 1515–1549) yn un o Aelodau Seneddol cynharaf Sir Fôn gan wasanaethu yn Senedd rhwng 1545 a 1549 [1]
William Bulkeley | |
---|---|
Ganwyd | 1515 |
Bu farw | 10 Gorffennaf 1549 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1545-47, Aelod o Senedd1547-1552 |
Roedd Bulkley yn ail fab Rowland Bulkely, Biwmares ac Alice merch Syr William Becconshall o Swydd Gaerhirfryn, yn frawd i Syr Richard Bulkley Canghellor a Siambrlen Gogledd Cymru, i'r hwn y bu'n weithredu fel dirprwy, a gan hynny yn ewyrth i Richard Bulkley ei olynydd fel Aelod Seneddol.
Priododd Elin merch Richard ap Meredydd Porthmal gan etifeddu ystâd Porthmal.
Gwasanaethodd fel dirpwy Siryf Sir Gaernarfon ym 1537 a 1538; ac Uchel Siryf Sir Fôn 1543-4 [2]
Mi fyddai wedi bod yn aelod o'r Senedd pan pasiwyd y ddeddf i wneud Biwmares yn brif dref Môn yn hytrach na Niwbwrch.
Bu farw cyn ddiwedd sesiwn 1549 o'r Senedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 21 Rhagfyr 2015
- ↑ The History of Parliament online BULKELEY, William I (by 1515-49), of Llangefni and Porthamel, Anglesey [1] adalwyd 21 Rhagfyr 2015
Senedd Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Anhysbys |
Aelod Seneddol Ynys Môn 1545 – 1549 |
Olynydd: Richard Bulekley |