William Cadwaladr Davies
un o arloeswyr y mudiad addysg yng (1849 -1905)
Addysgwr o Fangor, Gwynedd oedd William Cadwaladr Davies (2 Mai 1849 – 25 Tachwedd 1905). Cymerodd ran weithredol yn y sefydliad o'r 'North Wales Scholarship Association', a gychwynwyd gan Syr Hugh Owen yn 1879. Roedd hefyd yn rhan o'r mudiad a arweiniodd at agoriad Coleg Prifathrofaol Gogledd Cymru.[1]
William Cadwaladr Davies | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mai 1849 Bangor |
Bu farw | 25 Tachwedd 1905 Worthing |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | addysgwr |
Priod | Mary Davies |
Perthnasau | John Davies |
Cefndir
golyguCafodd ei eni ym Mangor, yn fab i William Davies, clerc ac yn nai i John Davies ('Gwyneddon'). Aeth i ysgol elfennol Garth ym Mangor, cyn mynd i weithio yn swyddfa'r North Wales Chronicle. Yn 20 oed, daeth yn olygydd Cronicl Cymru, yn dilyn ei ewythr. Pan ddaeth hyn i ben yn 1872, dechreuodd Davies gynrychioli'r Cronicl yn Llandudno.
Ffynonellau
golygu- North Wales Chronicle, 1 Tachwedd 1905
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "DAVIES, WILLIAM CADWALADR (1849 - 1905), un o arloeswyr y mudiad addysg yng Nghymru | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-22.