John Davies (Gwyneddon)
Roedd John Davies ('Gwyneddon') yn ddyn amlwg ym myd cyhoeddi Cymru ganol 19g.
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol |
---|---|
Rhan o | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Ganwyd ef ym Mangor yn 1832. Prentisiwyd ef yn argraffydd; bu ar staff olygyddol y North Wales Chronicle ac yn golygu Cronicl Cymru, 1866. I hwnnw ysgrifennodd 'Dyddlyfr Oliver Jenkins.' Yn 1868 sefydlodd fel argraffydd yng Nghaernarfon; o'i swyddfa ef y cychwynnwyd Y Goleuad, 30 Hydref 1869, ac ef oedd y golygydd cyntaf. Y mae ei nodiadau ar y tudalen cyntaf yn profi ei fedr fel newyddiadurwr. Ymhen rhai blynyddoedd newidiodd ei waith a phenodwyd ef yn rheolwr banc Pughe a Jones yng Nghaernarfon, ac ystyrid ef yn ddyn busnes da. Cymerodd ran flaenllaw ym mywyd y dref a bu'n faer. Ar un adeg bu'n ysgrifennu erthyglau arweiniol i'r Genedl Gymreig. Yr oedd yn awdur un emyn adnabyddus, sef yr emyn diolch sydd yn dechrau 'Anfeidrol Dduw rhagluniaeth…' Bu farw yng Nghaernarfon, ddiwedd Ionawr, 1904.
Llawysgrifau Gwyneddon
golyguRoedd Gwyneddon yn gasglwr mawr o lawysgrifau. Mae Casgliad Gwyneddon yn cynnwys 25 o gyfrolau llawysgrif a fu gynt yn eiddo iddo a'i fab yr Henadur Gwyneddon Davies o Gaernarfon, y rhoddwr. Roedd 19 o'r cyfrolau (Gwyneddon mss 1-16, 19, 23 a 24) ar un adeg ym meddiant y Parch. Peter Bayly Williams, rheithor Llanrug a Llanberis, 1792-1836,a chyfieithydd. Mae MSS 20, 21, a 22 yn cynnwys cofnodion, trafodion a chyfrifon dwy gymdeithas lenyddol Gymraeg Bangor; Cymdeithas Gymroaidd Bangor a Cymdeithas Gomeryddion Bangor rhwng 1846-1850.[1]
Ei fab - Robert Gwyneddon Davies
golyguMan John Davies oedd Robert Gwyneddon Davies (1870 - 1928) yn gyfreithiwr ac awdur cyfieithiad i'r Saesneg o'r Bardd Cwsc, 1897 (ail arg. 1909), a fu farw 17 Ebrill 1928, yn 58 oed. Yr oedd yn gasglwr llawysgrifau, ac y mae amryw o'r rhain yn llyfrgell Prifysgol Bangor.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwyneddon Manuscripts". JISC. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2023.
- ↑ "Davies, John (Gwyneddon)". Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2023.