Mary Davies
Cantores glasurol o Gymru a chasglwr alawon gwerin Cymreig oedd Mary Davies (27 Chwefror 1855 - 22 Mehefin 1930).[1]
Mary Davies | |
---|---|
Ganwyd | 27 Chwefror 1855 Llundain |
Bu farw | 22 Mehefin 1930 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr |
Math o lais | mezzo-soprano |
Tad | William Davies |
Priod | William Cadwaladr Davies |
Cefndir
golyguGanwyd Davies yn Llundain yn ferch hynaf ac un o chwech o blant William Davies (Mynorydd), cerflunydd a cherddor [2] o Ferthyr Tudful yn wreiddiol a Jane ei wraig a hanai o'r Abermaw.[3]. Mynychai ysgol Sul a chapel Cymraeg Nassau Street yn y ddinas, lle fu ei thad yn godwr canu, a gan hynny yn Gymraes o ran iaith yn ogystal ag o ran cefndir.
Gyrfa
golyguBu'n canu yn yr ‘Undeb Corawl Cymreig’ o dan arweiniad John Thomas (‘Pencerdd Gwalia’) a hefyd yn canu fel unawdydd mewn cyngherddau cymdeithasau a chapeli Cymraeg Llundain. Clywodd y cerddor Brinley Richards hi'n canu mewn cyngerdd a chynhigiodd dysgu hi i ganu'r piano. Richards hefyd a awgrymodd bod hi'n ymgeisio am yr ysgoloriaeth o dair blynedd yn yr Academi Gerdd Frenhinol a roddid gan yr Undeb Corawl. Bu'n llwyddiannus a chychwynnodd ar gwrs 3 blynedd yn yr academi ym 1873. Yn yr Academi enillodd y fedal efydd am ganu yn ei flwyddyn gyntaf, y fedal arian yn ei ail flwyddyn a'r fedal aur yn ei thrydedd flwyddyn.[4] O herwydd ei llwyddiant ar y cwrs penderfynodd yr Undeb i roi estyniad o ddwy flynedd arall ar yr ysgoloriaeth.[5]
Roedd gan Mary llais soprano coloratwra a daeth yn enwog am ei pherfformiadau mewn gweithiau oratorio. Roedd gweithiau gan Berlioz, Gounod, Sterndale Bennett ac Arthur Sullivan yn rhan o'i repertoire safonol. Yn Lloegr bu ei gyrfa gynnar yn bennaf mewn cymdeithasau cerdd, gwyliau cerdd a neuaddau cyngerdd ledled y wlad yn arbennig yng nghyngherddau Neuadd St. James, Llundain, a'r Halle, Manceinion. Byddai'n ymweld â Chymru o bryd i'w gilydd yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn er yn bennaf i berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Gerdd nodedig Harlech.[6]
Teulu
golyguYm 1888 priododd William Cadwaladr Davies,[7] cofrestrydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Wedi priodi symudodd i fyw i Fangor a rhoddodd y gorau i'w gyrfa broffesiynol. Ym 1893 ymddeolodd Cadwaladr Davies o'i swydd ym Mangor oherwydd salwch difrifol. Aeth y cwpl i aros ym mhlasty William Rathbone yn ne Ffrainc i geisio gwellhad, wedi hynny symudasant yn ôl i Lundain i fyw.[5]. Bu farw Cadwaladr Davies ym 1905.
Cymdeithas Alawon Gwerin
golyguYn ystod ei chyfnod ym Mangor y clywodd Mary Davies ganeuon gwerin Cymru, nid ar ffurf y trefniadau parlwr Fictoraidd bu hi'n gyfarwydd â hwy yn Llundain y dosbarth canol. Ym Mangor roedd yn eu clywed yn eu 'cyflwr gwyllt a gwreiddiol'. Daeth yn rhan o'r ymdrechion cynnar i gasglu deunydd o'r fath o ffynonellau llafar. Parhaodd ei ymdrechion yn y maes am weddill ei dyddiau.[6]
Wedi marwolaeth Cadwaladr Davies ofynnwyd i J. Lloyd Williams [8] i drefnu'r gerddoriaeth ar gyfer ei angladd. Wedi'r angladd danfonodd Mary Davies llythyr o ddiolch iddo gan amgáu casgliad o lawysgrifau o'r alawon roedd wedi dod i feddiant hi a'i gŵr. Bu hyn yn ysbardun i Lloyd Williams, gyda Mary Davies, Ruth Herbert Lewis a Dora Herbert Jones i gychwyn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym 1906. Er ei bod yn byw yn Llundain, ni fu hyn yn rhwystr mawr i'w gwaith gyda'r gymdeithas newydd. Yn wir mewn rai ffyrdd bu'n fendith. Roedd digon o Gymry alltud yn y ddinas ar y pryd a bu Mary yn casglu llawer o hen alawon ganddynt hwy. Roedd hi hefyd mewn cysylltiad â rhai o arweinwyr Cymdeithas Alawon Gwerin Lloegr megis Cecil Sharp a Frank Kidson ac yn gallu ymofyn eu cymorth ac arbenigedd i sicrhau bod y gymdeithas Gymreig yn cael ei osod ar seiliau cadarn.[6]
Bu Mary Davies yn ddiwyd iawn yng ngwaith casglu alawon yn Llundain a thrwy fynd ar deithiau recordio gyda ffonograff (peiriant recordio cynnar) trwy Gymru. Yn sicr heb ei gwaith a diwydiant yn y maes byddai nifer fawr o ganeuon gwerin sy'n gyfarwydd iawn bellach megis Mynd efo Deio i Dywyn a Hob y Deri Dando, o bosib wedi eu colli am byth.[6]
Marwolaeth
golyguBu farw 22 Mehefin 1930, a chladdwyd hi yn yr un bedd a'i gŵr ym mynwent Glanadda, Bangor.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Mary Davies - Y Bywgraffiadur Cymreig
- ↑ Rees, T. M., (1953). DAVIES, WILLIAM (‘Mynorydd’; 1826 - 1901), cerflunydd a cherddor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 13 Medi 2019
- ↑ Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1881 St Pancras Llundain RG11/197; Ffolio: 15; tudalen: 23
- ↑ "Mrs Mary Davies" yn Y Gymraes cyhoeddiad misol darluniadol i ferched Cymru; Cyfrol. II rhif. 20; Mai 1898
- ↑ 5.0 5.1 "MRS MARY DAVIES - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-03-18. Cyrchwyd 2019-09-13.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion; Cyfrol 4, 1998; MARY DAVIES GRANDE DAME OF WELSH MUSIC gan Wyn Thomas, BMus, MA
- ↑ "DAVIES, WILLIAM CADWALADR (1849 - 1905), un o arloeswyr y mudiad addysg yng Nghymru | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-13.
- ↑ "WILLIAMS, JOHN LLOYD (1854 - 1945), llysieuydd a cherddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-13.