William Camden
Hynafiaethydd a hanesydd o Loegr oedd William Camden (2 Mai 1551 – 9 Tachwedd 1623), a aned yn Llundain. Roedd yn hanesydd blaengar a gafodd ddylanwad mawr ar ei gyfoeswyr a'i olynwyr.
William Camden | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mai 1551 Llundain |
Bu farw | 9 Tachwedd 1623 (yn y Calendr Iwliaidd) Chislehurst |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hynafiaethydd, achydd, llenor, hanesydd |
Swydd | Clarenceux King of Arms |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Britannia |
Roedd yn fab i arlunydd. Cafodd ei adddysg yn Ysgol Sant Paul, Llundain, a Phrifysgol Rhydychen. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa fel athro (1575) ac yna'n brifathro (1593) yn Ysgol Westminster, Llundain. Bu farw yn Chislehurst, 1623.
Gwaith pwysicaf a mwyaf dylanwadol Camden oedd ei gyfrol Britannia a gyhoeddodd yn Lladin yn 1586 (fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg yn 1610). Arolwg topograffegol o Ynysoedd Prydain ydyw, sy'n cynnwys nodiadau helaeth ar hynafiaethau yn ogystal â manylion daearyddol. Mae'r cyfan wedi'i trefnu fesul sir mewn dull arloesol. Dyma'r gwaith y cyfeirir ato gan amlaf fel "Camden's Britannia" gan hynafiaethwyr y ddwy ganrif olynol fel Thomas Pennant; roedd yn fath o Feibl iddynt. Erys yn ffynhonnell werthfawr iawn am hanes gwledydd Prydain.
Mae ei weithiau eraill yn cynnwys hanes achos llys Guto Ffowc a hanes cronolegol oes y frenhines Elisabeth I o Loegr.