William Carlos Williams
Bardd o Americanwr oedd William Carlos Williams (17 Medi 1883 – 4 Mawrth 1963) a gysylltir yn agos gyda'r mudiadau celf: moderniaeth a delweddiaeth. Roedd ei gariad at luniau celf hefyd yn un angerddol, a gwelir hyn yn ei gerddi.
William Carlos Williams | |
---|---|
Ganwyd | 17 Medi 1883 Rutherford |
Bu farw | 4 Mawrth 1963 Rutherford |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, meddyg, hunangofiannydd, meddyg ac awdur, beirniad llenyddol, llenor |
Adnabyddus am | Paterson |
Mudiad | modernist poetry, Delweddiaeth, Cenhedlaeth y Bitniciaid, Objectivist poets |
Gwobr/au | Gwobr Bollingen, Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth, Gwobr Cenedlaethol y Llyfr, Neuadd Enwogion New Jersey, Cymrodoriaeth Academi Beirdd America, Russell Loines Award for Poetry |
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Pennsylvania. Pediatrydd ydoedd yn ei waith bob dydd, a hynny yn ysbytu Passaic, New Jersey, a adnabyddir heddiw fel 'St. Mary's General Hospital'. Roedd yn bennaeth yr adran rhwng 1924 a'i farwolaeth.
Roedd yn gyfaill i'r beirdd Ezra Pound a Hilda Doolittle ac i'r peintiwr Charles Demuth.[1]
Gweithiau
golyguBarddoniaeth
- Poems (1909)
- Spring and All (1923)
- An Early Martyr (1935)
- Broken Span (1941)
- The Wedge (1944)
- Clouds, Aigeltinger, Russia, &c. (1948)
- The Desert Music and Other Poems (1954)
- Pictures from Brueghel (1962)
- Paterson (1963)
- Imaginations (1970)
Rhyddiaith
- Kora in Hell (1920)
- The Great American Novel (1923)
- In the American Grain (1925)
- Novelette and Other Prose (1932)
- Autobiography (1951)
- Selected Essays (1954)
- Embodiment of Knowledge (1974)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ upenn.edu; Archifwyd 2012-11-12 yn y Peiriant Wayback adalwyd Mawrth 2016