Mudiad ym marddoniaeth Unol Daleithiau America a Lloegr yn nechrau'r 20g oedd Delweddiaeth neu Imagistiaeth[1] a oedd yn ffafrio delweddaeth fanwl ac iaith eglur, graff. Ystyrir mai dyma'r mudiad llenyddol modernaidd cyfundrefnol cyntaf yn yr iaith Saesneg.[2] Weithiau gwelir Delweddiaeth fel "cyfres o adegau creadigol" yn hytrach na chyfnod di-dor neu ddatblygiad cyson o dueddiadau llenyddol. Meddai'r academydd Ffrengig René Taupin, "mae'n gywirach ystyried Delweddiaeth nid fel athrawiaeth, nac hyd yn oed fel ysgol farddol, ond fel cymdeithas o ychydig o feirdd a fu am gyfnod penodol yn cytuno ar nifer fach o egwyddorion pwysig".[3]

Casglodd y bardd Americanaidd alltud Ezra Pound (ffotograff o 1913) 11 o feirdd yn y flodeugerdd gyntaf o farddoniaeth Ddelweddaidd, Des Imagistes (1914).

Gwrthododd y Delweddwyr y farddoniaeth deimladwy a gwasgarog a oedd yn nodweddiadol o Ramantiaeth ac Oes Fictoria. Yn wahanol i'w cyfoedion "Sioraidd"⁠—y criw o feirdd a flodeuai yn Lloegr yn y 1910au⁠—a oedd yn fodlon ar y cyfan i weithio o fewn yr hen draddodiad, galwodd y Delweddwyr am ddychwelyd at werthoedd Clasuriaeth, megis uniondeb y cyflwyniad, cynildeb iaith, a pharodrwydd i arbrofi â ffurfiau mydryddol anhraddodiadol, sef canu rhydd. Nodwedd briod o'r ffurf yw ei hymgais i ynysu un ddelwedd er mwyn datgelu ei hanfod. Mae hyn yn adlewyrchu datblygiadau cyfoes mewn celf yr avant-garde, yn enwedig Ciwbiaeth. Er bod y beirdd Delweddaidd yn ynysu gwrthrychau trwy ddefnyddio'r hyn a alwai'r bardd Americanaidd Ezra Pound yn "fanylion goleuol", mae dull ideogramaidd Pound o gyfosod enghreifftiau diriaethol i fynegi haniaeth yn debyg i ddull Ciwbiaeth o syntheseiddio safbwyntiau lluosog yn un ddelwedd.[4]

Cyhoeddwyd sawl cylchgrawn a blodeugerdd Ddelweddaidd rhwng 1914 a 1917 yn cynnwys gweithiau gan nifer o awduron blaena'r mudiad modernaidd, yn eu plith Ezra Pound, H.D. (Hilda Doolittle), Amy Lowell, Ford Madox Ford, William Carlos Williams, F. S. Flint, a T. E. Hulme. Llundain oedd canolfan y Delweddwyr, ac yno bu aelodau o Brydain Fawr, Iwerddon a'r Unol Daleithiau yn gweithio ac yn cymdeithasu gyda'i gilydd. Yn anarferol iawn ar y pryd, roedd nifer o awduron benywaidd yn ffigurau o bwys ym mudiad Delweddiaeth.

Cyn-Ddelweddiaeth golygu

Ceir gwreiddiau Delweddiaeth mewn dwy gerdd, Autumn ac A City Sunset gan y Sais T. E. Hulme.[5] Cyhoeddwyd y rhain yn Ionawr 1909 gan y Poets' Club yn Llundain mewn llyfryn o'r enw For Christmas MDCCCCVIII. Myfyriwr mathemateg ac athroniaeth oedd Hulme; bu'n ymwneud â sefydlu'r clwb ym 1908 ac ef oedd ei ysgrifennydd cyntaf. Tua diwedd 1908, cyflwynodd ei erthygl A Lecture on Modern Poetry mewn un o gyfarfodydd y clwb.[6] Yn ei gyfraniadau at y cylchgrawn Ffabiaidd The New Age (a olygwyd gan A. R. Orage), byddai'r bardd a beirniad F. S. Flint, lladmerydd brwd dros ganu rydd a barddoniaeth Ffrangeg fodern, yn feirniadol iawn o'r Poets' Club a'i cyhoeddiadau.[7]

Yn sgil y ddadl a ddilynodd, magwyd cyfeillgarwch agos gan Hulme a Flint. Ym 1909, gadawodd Hulme y Poets' Club a dechreuai gyfarfod â Flint a beirdd eraill mewn grŵp newydd a alwyd gan Hulme yn y "Secession Club"; cyfarfuant ym mwyty'r Eiffel Tower yn Soho, Llundain,[8] i drafod cynlluniau i ddiwygio barddoniaeth gyfoes drwy gyfrwng canu rhydd a’r ffurfiau Japaneaidd tanka a haiku, a thrwy ddileu pob gair diangen o'u cerddi. Gellir gosod y diddordeb mewn barddoniaeth Japan yng nghyd-destun yr adfywiad mewn chinoiserie a Japoniaeth yn yr oesoedd Fictoraidd ac Edwardaidd,[9] fel y tystiwyd gan brintiau Japaneaidd William Anderson a roddwyd i'r Amgueddfa Brydeinig yn y 1890au, yn ogystal â dylanwad printiau bloc pren ar baentiadau Monet, Degas a van Gogh.[10] Daeth patrymau llenyddol o sawl ffynhonnell, gan gynnwys y gyfrol Hyak nin is'shiu, or, Stanzas by a Century of Poets, Being Japanese Lyrical Odes (1866) gan F. V. Dickins (y trosiad cyntaf i'r Saesneg o 'r Hyakunin Isshū,[11] blodeugerdd o 100 waka o'r 13g), ysgrifau beirniadol a cherddi Sadakichi Hartmann o ddechrau'r 20g, a chyfieithiadau Ffrangeg cyfoes.[12]

Cyflwynwyd yr Americanwr Ezra Pound i'r cylch o feirdd Seisnig hwn yn Ebrill 1909 a byddai'n canfod eu syniadau yn agos at ei rai ef.[13] Yn arbennig, yr oedd astudiaethau Pound o lenyddiaeth Ramantaidd wedi ei arwain at edmygedd o'r mynegiant cryno, uniongyrchol a ganfu mewn barddoniaeth Arnaut Daniel, Dante Alighieri, Guido Cavalcanti ac eraill. Er enghraifft, yn ei gyfres o ysgrifau I gather the limbs of Osiris (1911–12), ysgrifennau Pound am linell Daniel "pensar de lieis m'es repaus" ("mae'n gorffwys i mi i feddwl amdani"), o'r canzone En breu brizara'l temps braus: "Ni allwch gael gosodiad yn symlach na hynny, neu'n gliriach, neu'n llai rhethregol".[14] Roedd y meini prawf hyn⁠—uniongyrchedd, eglurder a diffyg rhethreg⁠—i fod ymhlith rhinweddau diffiniol y gerdd Ddelweddaidd. Trwy ei gyfeillgarwch â Laurence Binyon, roedd Pound eisoes wedi datblygu diddordeb mewn celf Japan trwy archwilio printiau Nishiki-e yn yr Amgueddfa Brydeinig, a buan yr oedd wedi ymgolli yn ei astudiaethau o ffurfiau barddol Japaneaidd.

Mewn erthygl yn y papur newydd La France ym 1915, disgrifiodd y beirniad Remy de Gourmont y Delweddwyr fel disgynyddion i'r Symbolwyr Ffrengig.[15] Pwysleisiodd Pound y dylanwad hwnnw mewn llythyr o 1928 at y beirniad a'r cyfieithydd Ffrengig René Taupin. Tynnodd sylw at y ffaith fod Hulme yn ddyledus i'r traddodiad Symbolaidd, trwy gyfrwng cenhedlaeth y Rhymers' Club, yn bennaf W. B. Yeats ac Arthur Symons, a Mallarmé.[16] Ym 1929, daeth Taupin i'r casgliad pa mor fawr bynnag oedd y gwahaniaeth rhwng techneg ac iaith "rhwng delwedd y Delweddydd a 'symbol' y Symbolwyr[,] nid oes ond gwahaniaeth o ran cywirdeb".[3] Ym 1915, golygodd Pound farddoniaeth bardd arall o'r 1890au, Lionel Johnson. Yn ei ragymadrodd, ysgrifennai:

No one has written purer imagism than [Johnson] has, in the line
Clear lie the fields, and fade into blue air,
It has a beauty like the Chinese.[17]

Cyhoeddiadau cynnar a datganiadau o fwriad golygu

 
H.D. (Hilda Doolittle)

Ym 1911, cyflwynodd Pound ddau fardd arall i grŵp yr Eiffel Tower: ei gyn-ddyweddi Hilda Doolittle (a oedd erbyn hynny yn arwyddo'i gwaith H.D.) a'i darpar ŵr hi, Richard Aldington. Roedd gan y ddau ddiddordeb mewn archwilio modelau barddonol yr hen Roegiaid, yn enwedig Sappho, diddordeb yr oedd Pound yn ei rannu.[18] Trwy ddilyn yr esiampl Roegaidd, cyflawnai Pound, H.D., ac Aldington gywasgiad o ran mynegiant mewn eu cerddi, arddull sydd yn ategu diddordeb y beirdd mewn barddoniaeth Japan. Mewn cyfarfod yn ystafell de'r Amgueddfa Brydeinig ym 1912, dywedodd Pound wrth H.D. ac Aldington ei bod yn Imagistes, a fe wnaeth hyd yn oed atodi'r llofnod H.D. Imagiste i rai cerddi roedden nhw'n eu trafod.[19]

Pan ddechreuodd yr Americanes Harriet Monroe ei chylchgrawn Poetry ym 1911, gofynnodd i Pound fod yn olygydd tramor. Yn Hydref 1912, anfonodd Pound i Monroe dair cerdd yr un gan H.D. ac Aldington yn enw'r Imagiste,[20] gyda nodyn yn disgrifio Aldington fel "un o'r 'Imagistes'". Ystyrir mai'r nodyn hwn, ynghyd â'r nodyn atodiad ("The Complete Works of T. S. Hulme") yn llyfr Pound, Ripostes (1912), ydy'r argraffiadau cyntaf o'r gair "Imagiste" (a Seisnigeiddiwyd yn ddiweddarach i "Imagist").[20]

Cyhoeddwyd cerddi Aldington, Choricos, To a Greek Marble, ac Au Vieux Jardin, yn rhifyn Tachwedd 1912 o Poetry, ac ymddangosai gerddi H.D., Hermes of the Ways, Priapus, ac Epigram, yn rhifyn Ionawr 1913, gan nodi dechrau mudiad Delweddiaeth.[21] Yn rhifyn Ebrill 1913 o Poetry, cyhoeddwyd cerdd gan Pound o'r enw "In a Station of the Metro", ar ffurf debyg i haiku:

The apparition of these faces in the crowd :
Petals on a wet, black bough .[22]

Yn rhifyn Mawrth 1913 o Poetry cyhoeddwyd A Few Don'ts by an Imagiste a thraethawd o'r enw Imagisme, y ddau waith wedi'u hysgrifennu gan Pound,[23] ond yr ail wedi'i briodoli i Flint. Yn y traethawd hwnnw cynhwysir datganiad cryno o safbwynt y grŵp, gyda chydsyniad H.D. ac Aldington:[24]

  1. Direct treatment of the "thing", whether subjective or objective.
  2. To use absolutely no word that does not contribute to the presentation.
  3. As regarding rhythm: to compose in sequence of the musical phrase, not in sequence of the metronome.[25]

Agora nodyn Pound gyda diffiniad o ddelwedd fel "yr hyn sy'n cyflwyno cymhlethdod deallusol ac emosiynol mewn amrantiad o amser". Â Pound ymlaen i ddweud, "Mae'n well cyflwyno un Ddelwedd mewn oes na chynhyrchu gweithiau mewn sawl cyfrol".[26] Mae ei restr o "bethau i beidio â gwneud" yn atgyfnerthu ei dri datganiad yn yr ysgrif Imagisme, tra'n rhybuddio na ddylid eu hystyried fel dogma ond fel "canlyniad i fyfyrdod hir".[27] Gyda'i gilydd, cynhwysir yn y ddau destun hwn raglen y Delweddwyr ar gyfer dychwelyd i'r hyn a welent fel arferion barddol gorau'r gorffennol. Meddai F. S. Flint, "nid ydym erioed wedi honni ein bod wedi dyfeisio’r lleuad. Nid ydym yn esgus bod ein syniadau yn wreiddiol."[28]

Yn ôl y rhagair i argraffiad Some Imagist Poets ym 1906, "Nid yw Delweddiaeth yn golygu cyflwyno lluniau yn unig. Mae Delweddiaeth yn cyfeirio at y dull o gyflwyno'r pwnc, nid at y pwnc ei hun."[29]

Des Imagistes golygu

 
Richard Aldington ym 1931.

Bu Pound yn benderfynol o hyrwyddo gwaith y Delweddwyr, yn arbennig Aldington a H.D. Cyhoeddodd felly flodeugerdd dan y teitl Des Imagistes, yn gyntaf yn The Glebe, mân-gylchgrawn llenyddol a olygwyd gan Alfred Kreymborg a Man Ray, ac yn ddiweddarach ym 1914 gan Albert a Charles Boni yn Efrog Newydd a chan Harold Monro yn y Poetry Bookshop yn Llundain. Daeth Des Imagistes yn un o'r casgliadau Saesneg pwysicaf a mwyaf dylanwadol o farddoniaeth fodernaidd.[30] Ceir 37 o gerddi i gyd yn y flodeugerdd hon, gan gynnwys 10 gan Aldington, saith gan H.D., a chwe cherdd gan Pound. Cynhwysir hefyd benillion gan Flint, Skipwith Cannell, Amy Lowell, William Carlos Williams, James Joyce, Ford Madox Ford, Allen Upward, a John Cournos.[31][32]

Roedd dewisiadau golygyddol Pound yn seiliedig ar yr hyn yr oedd yn ei weld fel cydymdeimlad neu gydymffurfiad y gweithiau ag egwyddorion Delweddaidd, yn hytrach na chyfranogiad gweithredol gan yr awduron yng nghylch Pound, H.D. ac Aldington. Nid oedd y bardd Americanaidd William Carlos Williams, er enghraifft, wedi cymryd rhan mewn unrhyw un o drafodaethau grŵp yr Eiffel Tower. Fodd bynnag, bu Williams a Pound yn gohebu ers tro ar sut i adnewyddu barddoniaeth i gyfeiriad tebyg. Mae'n debyg i Ford Madox Ford gael ei gynnwys am iddo ddylanwadu'n gryf ar Pound, wrth i'r bardd iau drawsnewid o’i arddull gynharach, a ddylanwadwyd gan y Cyn-Raffaëlaidd, i ffordd galetach, fwy modern o ysgrifennu. Roedd y flodeugerdd hefyd yn cynnwys y gerdd I Hear an Army gan James Joyce, a anfonwyd i Pound gan W. B. Yeats.[33]

Some Imagist Poets golygu

Ysgrifennodd Flint erthygl ar hanes Delweddiaeth, a gyhoeddwyd yn The Egoist ym Mai 1915. Anghytunai Pound â dehongliad Flint o ddatblygiad ac amcanion y grŵp, ac o ganlyniad byddai'r ddau yn rhoi'r gorau i gysylltu â’i gilydd.[34] Pwysleisiodd Flint gyfraniad beirdd yr Eiffel Tower, yn enwedig Edward Storer. Na fyddai Ezra Pound⁠—a gredai nad oedd y "caledwch Helenaidd" a welai fel ansawdd nodedig cerddi H.D. ac Aldington yn debygol o gael ei wanhau gan "gwstard" Storer⁠—yn chwarae rhan uniongyrchol bellach yn hanes y Delweddwyr. Aeth Pound ymlaen i gyd-sefydlu'r Fortisyddion gyda'i gyfaill, yr arlunydd a llenor o Sais, Wyndham Lewis. [35]

 
Y bardd Americanaidd Amy Lowell, a olygai sawl cyfrol ddiweddarach o Some Imagist Poets.[36]

Tua'r amser hwn, symudodd y Delweddydd Americanaidd Amy Lowell i Lundain, yn benderfynol o hyrwyddo ei gwaith ei hun a gwaith beirdd eraill y mudiad. Aeres gyfoethog o Boston oedd Lowell, a bu ei brawd Abbott Lawrence Lowell yn Llywydd Prifysgol Harvard o 1909 i 1933.[37] Hyrwyddwraig frwd o lenyddiaeth arbrofol oedd Lowell, a oedd yn fodlon defnyddio'i harian i gyhoeddi gwaith y Delweddwyr. Roedd Lowell yn benderfynol o newid y dull o ddethol ar gyfer blodeugerddi'r grŵp, o olygyddiaeth unbennaidd Pound i agwedd fwy democrataidd.[38] O ganlyniad, cynhyrchwyd cyfres newydd o flodeugerddi dan y teitl Some Imagist Poets. Ymddangosodd y cyntaf o'r rhain ym 1915, wedi'i gynllunio a'i drefnu yn bennaf gan H.D. ac Aldington. Cyhoeddwyd dau rifyn arall, y ddau wedi’u golygu gan Lowell, ym 1916 a 1917. Roedd y tair cyfrol hyn yn cynnwys y mwyafrif o feirdd gwreiddiol y cylch, yn ogystal â'r Americanwr John Gould Fletcher,[39] ond nid Ezra Pound ei hun, a oedd wedi ceisio perswadio Lowell i ollwng yr enw Imagist o'i chyhoeddiadau. Byddai Pound yn galw'r cyfnod hwn o Ddelweddiaeth yn "Amygism", cyfeiriad coeglyd at Lowell.[40]

Llwyddodd Lowell i ddwyn perswâd ar D. H. Lawrence i gyfrannu cerddi i'r cyfrolau a gyhoeddwyd ym 1915 a 1916;[41] Lawrence felly oedd yr unig lenor i gyhoeddi fel bardd Sioraidd a Delweddydd. Daeth Marianne Moore hefyd yn gysylltiedig â'r grŵp yn ystod y cyfnod hwn.[42] Oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18), nid oedd yn amser hawdd i fudiadau llenyddol yr avant-garde (treuliodd Aldington, er enghraifft, lawer o'r rhyfel ar Ffrynt y Gorllewin), ac roedd blodeugerdd 1917 i bob pwrpas yn nodi diwedd y Delweddwyr fel mudiad.[43]

Y cyfnod wedi Delweddiaeth golygu

Ym 1929, awgrymodd Walter Lowenfels, mewn hwyl, y dylai Aldington (a oedd bellach yn nofelydd llwyddiannus) gynhyrchu casgliad newydd o farddoniaeth y Delweddwyr.[44] Derbyniodd Aldington yr awgrym a gofynnodd am gymorth Ford a H.D. i baratoi blodeugerdd newydd. Ffrwyth yr ymdrech hon oedd yr Imagist Anthology 1930, a olygwyd gan Aldington, sydd yn cynnwys yr holl feirdd a gyfrannai at y pedair blodeugerdd gynt, ac eithrio Amy Lowell a fu farw ym 1925, Skipwith Cannell a oedd wedi diflannu o'r cylchoedd llenyddol, a Pound, a wrthododd. Arweiniodd ymddangosiad y flodeugerdd hon at drafodaeth feirniadol ar le’r Delweddwyr yn hanes barddoniaeth Saesneg yr 20g.[45]

O'r beirdd a gyhoeddwyd yn yr amryw flodeugerddi Delweddaidd, câi Joyce, Lawrence ac Aldington bellach eu cofio a'u darllen yn bennaf fel nofelwyr. Creodd Marianne Moore, a oedd yn aelod ymylol o’r grŵp, ei harddull farddonol unigryw ei hun a oedd yn ymlynu at hen ddiddordeb y Delweddwyr o gywasgu iaith. Datblygodd William Carlos Williams ei farddoniaeth mewn termau cwbl Americanaidd: byddai'n amrywio hydoedd ei gorfannau, ac yn honni iddo gymryd amrywiol, gyda’i droed amrywiol a’i ynganiad yr honnai iddo gael ei gymryd ei eirwedd "o enau mamau Pwylaidd".[46] Trodd Pound a H.D. ill dau at farddoniaeth ar ffurf hir, ond cadwasant galedwch eu hieithwedd fel etifeddiaeth y cyfnod Delweddaidd. Ni chofir y mwyafrif o aelodau eraill y grŵp y tu allan i gyd-destun Delweddiaeth.[47]

Etifeddiaeth golygu

Er gwaethaf oes fer y mudiad, byddai Delweddiaeth yn dylanwadu'n ddwfn ar hynt barddoniaeth fodernaidd yn yr iaith Saesneg. Ysgrifennai Richard Aldington yn ei hunangofiant ym 1941: "Rwy’n meddwl y bydd cerddi Ezra Pound, H.D., Lawrence, a Ford Madox Ford yn parhau i gael eu darllen. Ac i raddau helaeth mae T. S. Eliot a'i ddilynwyr wedi parhau â'u gweithredoedd o safleoedd a enillwyd gan y Delweddwyr."[48]

Ar y llaw arall, canfu'r bardd Americanaidd Wallace Stevens ddiffygion yn y dull Delweddaidd: "Nid yw pob gwrthrych yn gyfartal. Ffaeledd delweddiaeth oedd nad oedd yn cydnabod hyn."[49] Wrth alw am galedwch, eglurder a manylrwydd a mynnu ffyddlondeb i gyflwyniad a golwg, ynghyd ag ymwrthod ag emosiynau goddrychol amherthnasol, cafodd Delweddiaeth effeithiau diweddarach amlwg yn Preludes a Morning at the Window gan T. S. Eliot ac mewn cerddi anifeiliaid a blodau D. H. Lawrence. Yn y 1920au byddai nifer o feirdd modernaidd yn gwrthod ffurfiau confensiynol, ffasiwn a oedd i raddau helaeth o ganlyniad i wrthwynebiad y Delweddwyr i arddull y beirdd Sioraidd.[50]

Gwnaeth Delweddiaeth farddoniaeth rydd yn ddisgyblaeth a ffurf farddonol ddilys, a dylanwadodd y mudiad felly ar nifer o gylchoedd o feirdd a mudiadau llenyddol i ddod. Gwelir dylanwad y Delweddwyr yn glir ym marddoniaeth y Gwrthrychwyr,[51] a ddaeth i'r amlwg yn y 1930au dan nawdd Pound a Williams. Canai'r Gwrthrychwyr yn rhydd, yn bennaf. Gan gysylltu egwyddorion y Gwrthrychwyr â Delweddiaeth, mynnai Louis Zukofsky, yn ei ragymadrodd i rifyn arbennig o waith y Gwrthrychwyr o'r cylchgrawn Poetry ym 1931, bod y fath feirdd yn ysgrifennu gyda "manylder, nid rhith, trwy weld, meddwl am y pethau fel y maent, a'u cyfeirio ar hyd linell felodi." Bu Zukofsky ei hun yn ddylanwad mawr ar y garfan o feirdd avant-garde Americanaidd a gysylltir â'r cylchgrawn L=A=N=G=U=A=G=E yn y 1970au.[52] Yn ei draethawd arloesol o 1950, Projective Verse, ysgrifennai Charles Olson, damcaniaethwr beirdd Black Mountain, "Rhaid i un canfyddiad arwain ar unwaith ac yn uniongyrchol at ganfyddiad pellach",[53] ei gredo efe sydd yn deillio o, ac yn ategu, syniadau'r Delweddwyr.[54]

Ymhlith cenhedlaeth y Beats, dylanwadwyd ar Gary Snyder ac Allen Ginsberg yn arbennig gan bwyslais y Delweddwyr ar farddoniaeth Tsieina a Japan. Cafodd Williams hefyd effaith gref ar y Beats, gan annog beirdd fel Lew Welch ac ysgrifennu rhagymadrodd i argraffiad y gerdd Howl gan Ginsberg ar ffurf llyfr ym 1955.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "imagism".
  2. T.S. Eliot: "The point de repère, usually and conveniently taken as the starting-point of modern poetry, is the group denominated 'imagists' in London about 1910." Lecture, Washington University, St. Louis, June 6, 1953.
  3. 3.0 3.1 Taupin, René (1929). L'Influence du symbolism francais sur la poesie Americaine (de 1910 a 1920). Paris: Champion. Translation (1985) by William Pratt and Anne Rich. New York: AMS.
  4. Davidson (1997), pp. 11–13
  5. Brooker (1996), p. 48
  6. McGuinness (1998), xii.
  7. Crunden (1993), 271
  8. Williams (2002), p. 16
  9. Kita (2000), p. 179
  10. Kita (2000), pp. 179–180
  11. Ewick, David. "Strange Attractors: Ezra Pound and the Invention of Japan, II". Essays and Studies in British and American Literature, Tokyo Woman's Christian University, 2018
  12. Kita (2000), p. 180
  13. Moody (2007), pp. 180, 222
  14. Cookson (1975), p. 43
  15. Preface to Some Imagist Poets (1916). Constable and Company.
  16. Woon-Ping Chin Holaday (Summer 1978). "From Ezra Pound to Maxine Hong Kingston: Expressions of Chinese Thought in American Literature". MELUS 5 (2): 15–24. doi:10.2307/467456. JSTOR 467456.
  17. Ming, Xie (1998), p. 80
  18. Ayers (2004), p. 2
  19. King; Pearson (1979), p. 18
  20. 20.0 20.1 Monroe, Harriet (1938). A Poet's Life. Macmillan.
  21. "General William Booth Enters into Heaven by Vachel Lindsay". Poetry Foundation. March 20, 2018. Cyrchwyd March 21, 2018.
  22. DuPlessis, Rachel Blau (2001). Genders, Races, and Religious Cultures in Modern American Poetry, 1908–1934. Cambridge University Press. Excerpted in "On 'In a Station of the Metro' Archifwyd 2009-01-29 yn y Peiriant Wayback." (Modern American Poetry). Retrieved on August 29, 2010
  23. Pound (1913), pp. 200–206
  24. Geiger (1956), p. 144
  25. Elder (1998), pp. 72, 94
  26. Pound (1918). "A Retrospect". Reprinted in Kolocotroni et al. (1998), p. 374
  27. Pound (1974), p. 12
  28. F. S. Flint letter to J.C. Squire, January 29, 1917.
  29. Some Imagist Poets (1916). Constable and Company.
  30. Edgerly Firchow, Peter; Evelyn Scherabon Firchow; Bernfried Nugel (2002). Reluctant Modernists: Aldous Huxley and Some Contemporaries. Transaction Books, p. 32.
  31. Thacker (2018), pp. 5–6
  32. Pound (1914), pp. 5–6
  33. Ellmann (1959), p. 350
  34. Pondrom (1969), pp. 557–586
  35. Page, A.; Cowley, J.; Daly, M.; Vice, S.; Watkins, S.; Morgan, L.; Sillars, S.; Poster, J. et al. (1993). "The Twentieth Century". The Year's Work in English Studies 72 (1): 361–421. doi:10.1093/ywes/72.1.361. https://academic.oup.com/ywes/article-abstract/72/1/361/1637738. Adalwyd July 17, 2018.
  36. Bradshaw; Munich (2002), p. xvii
  37. "A(bbott) Lawrence Lowell". Harvard University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-17. Cyrchwyd July 16, 2018.
  38. Preface to Some Imagist Poets (1915). Reprinted in Kolocotroni et al (1998), p. 268
  39. Hughes, Glenn (1931). Imagism & The Imagists: A Study in Modern Poetry. Stanford University Press.
  40. Moody (2007), p. 224
  41. Lawrence (1979), p. 394
  42. Geiger (1956), pp. 140, 145
  43. Moody (2007), pp. 224–225
  44. Aldington (1984), p. 103
  45. Geiger (1956), pp. 139–147
  46. Bercovitch; Patell (1994), p. 35
  47. Geiger (1956), p. 139
  48. Smith, Richard. "Richard Aldington". Twayne, 1977. p. 23. ISBN 978-0-8057-6691-2
  49. Enck (1964), p. 11
  50. Allott, Kenneth (ed.) (1950). The Penguin Book of Contemporary Verse. Penguin Books. (See introductory note.)
  51. Sloan (1987), pp. 29–43
  52. Stanley (1995), pp. 186–189
  53. Olson (1966), p. 17
  54. Riddel (1979), pp. 159–188

Ffynonellau golygu

  • Aldington, Richard; Gates, Norman (1984). Richard Aldington: An Autobiography in Letters. University Park: Pennsylvania State University Press (Saesneg)
  • Aldington, Richard (1941). Life For Life's Sake. New York: Viking Press (Saesneg)
  • Ayers, David (2004). H. D., Ezra Pound and Imagism, in Modernism: A Short Introduction. Blackwell Publishers. ISBN 978-1-4051-0854-6 (Saesneg)
  • DuPlessis, Rachel Blau (1986). H.D.: The Career of That Struggle. The Harvester Press. ISBN 0-7108-0548-9 (Saesneg)
  • Bercovitch, Sacvan; Patell, Cyrus RK. (1994). The Cambridge History of American Literature. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-49733-6 (Saesneg)
  • Bradshaw, Melissa; Munich, Adrienne (2002). Selected Poems of Amy Lowell. New Brunswick NJ: Rutgers University Press. ISBN 978-0-8135-3128-1 (Saesneg)
  • Brooker, Jewel Spears (1996). Mastery and Escape: T. S. Eliot and the Dialectic of Modernism. University of Massachusetts Press. ISBN 1-55849-040-X (Saesneg)
  • Carpenter, Humphrey (1988). A Serious Character: The Life of Ezra Pound. Boston: Houghton Mifflin. ISBN 978-0-395-41678-5 (Saesneg)
  • Cookson, William (ed) (1975). Selected Prose, 1909–1965. London: New Directions Publishing. ISBN 978-0-8112-0574-0 (Saesneg)
  • Crunden, Robert (1993). American Salons: Encounters with European Modernism, 1885–1917. Oxford: Oxford University Press. ISBN 978-0-1950-6569-5 (Saesneg)
  • Davidson, Michael (1997). Ghostlier Demarcations: Modern Poetry and the Material Word. University of California Press. ISBN 0-520-20739-4 (Saesneg)
  • Elder, R. Bruce (1998). The Films of Stan Brakhage in the American Tradition of Ezra Pound, Gertrude Stein and Charles Olson. Wilfrid Laurier University Press. ISBN 0-88920-275-3 (Saesneg)
  • Ellmann, Richard (1959). James Joyce. Oxford: Oxford University Press (Saesneg)
  • Enck, John (1964). Wallace Stevens: Images and Judgments. Carbondale, IL: Southern Illinois University Press (Saesneg)
  • Geiger, Don (1956). "Imagism; the New Poetry Forty Years Later". Prairie Schooner, volume 30, No. 2. (jstor=40625011) (Saesneg)
  • Jones, Peter (ed.) (1972). Imagist Poetry. Penguin. ISBN 978-0-1419-1314-8 (Saesneg)
  • Kenner, Hugh (1975). The Pound Era. Faber and Faber. ISBN 0-571-10668-4 (Saesneg)
  • King, Michael; Pearson, Norman (1979). H. D., and Ezra Pound, End to Torment: A Memoir of Ezra Pound. New York: New Directions, 1979. ISBN 978-0-8112-0720-1 (Saesneg)
  • Kita, Yoshiko (2000). "Ezra Pound and Haiku: Why Did Imagists Hardly Mention Basho?". Paideuma: Modern and Contemporary Poetry and Poetics, volume 29, No. 3. (jstor=24726040) (Saesneg)
  • Kolocotroni, Vassiliki; Goldman, Jane; Taxidou, Olga (1998). Modernism: An Anthology of Sources and Documents. University of Chicago Press. ISBN 978-0-226-45074-2(Saesneg)
  • Lawrence, D. H. (1979). The Letters of D. H. Lawrence. Cambridge: Cambridge University Press (Saesneg)
  • Martin, Wallace (1970). "The Sources of the Imagist Aesthetic". PMLA, volume 85, No. 2. (jstor=1261393) (Saesneg)
  • McGuinness, Patrick (1998). T. E. Hulme: Selected Writings. Fyfield Books, Carcanet Press. ISBN 1-85754-362-9 (pp. xii–xiii)
  • Ming, Xie (1998). Ezra Pound and the Appropriation of Chinese Poetry: Cathay, Translation, and Imagism. New York: Routledge. ISBN 978-0-8153-2623-6
  • Moody, A. David (2007). Ezra Pound: Poet. A Portrait of the Man and His Work. I: The Young Genius 1885–1920. Oxford: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-957146-8
  • Olson, Charles (1966). Selected Writings. London: New Directions Publishing. ISBN 978-0-8112-0335-7
  • Pondrom, Cyrena (1969). "Selected Letters from H. D. to F. S. Flint: A Commentary on the Imagist Period". Contemporary Literature, volume 10, issue 4. (jstor=1207696) (Saesneg)
  • Pound, Ezra (1974) [June 1914]. "How I Began". In Grace Schulman (ed.). Ezra Pound: A Collection of Criticism. New York: McGraw-Hill Book Company. ISBN 0-07-055634-2 (Saesneg)
  • Pound, Ezra (1970). Pound/Joyce: The Letters of Ezra Pound to James Joyce. Edited by Forrest Read. New York: New Directions Publishing. ISBN 0-8112-0159-7 (Saesneg)
  • Pound, Ezra (ed.) (1914). Des Imagistes. New York: Albert and Charles Boni. (Saesneg)
  • Pound, Ezra (March 1913). "A Few Don'ts by an Imagiste". Poetry. I(6) (Saesneg)
  • Riddel, Joseph (1979). "Decentering the Image: The 'Project' of 'American' Poetics?". Boundary 2, volume 8, issue 1. (jstor=303146)
  • Sloan, De Villo (1987). "The Decline of American Postmodernism". SubStance, University of Wisconsin Press, volume 16, issue 3. (jstor=3685195) (Saesneg)
  • Stanley, Sandra (1995). "Louis Zukofsky and the Transformation of a Modern American Poetics". South Atlantic Review, volume 60. (jstor=3200737) (Saesneg)
  • Sullivan, J. P. (ed.) (1970). Ezra Pound. Penguin Critical Anthologies Series. ISBN 0-14-080033-6 (Saesneg)
  • Thacker, Andrew (2018). The Imagist Poets. Tavistock: Northcote House Publishers. ISBN 978-0-7463-1002-1 (Saesneg)
  • Wącior, Sławomir (2007). Explaining Imagism: The Imagist Movement in Poetry and Art. Edwin Mellen Press. ISBN 0773454276
  • Williams, Louise Blakeney (2002). Modernism and the Ideology of History: Literature, Politics, and the Past. Cambridge University Press. ISBN 0-521-81499-5 (Saesneg)

Dolenni allanol golygu