William Crawshay I

metelegwr (1764-1834)

Diwydiannwr a pherchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful oedd William Crawshay (176411 Awst 1834), a adwaenir fel William Crawshay I i'w wahaniaethu oddi wrth ei fab, William Crawshay II.

William Crawshay I
Ganwyd1764 Edit this on Wikidata
Bu farw11 Awst 1834 Edit this on Wikidata
Stoke Newington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmetelegwr Edit this on Wikidata
PlantWilliam Crawshay II Edit this on Wikidata

Roedd yn fab i Richard Crawshay, oedd wedi datblygu busnes llewyrchus, yn cynnwys gweithfeydd haearn ymysg eraill. Nid oedd gan William Crawshay yr hynaf lawr o ddiddordeb yng ngweithfeydd haearn y teulu, a pharhaodd i fyw yn Llundain hyd yn oed ar ôl iddo gymeryd cyfrifoldeb am y busnes, yn dilyn marwolaeth ei frawd hynaf. Roedd yn well ganddo ganolbwyntio ar agweddau eraill ar fusnes y teulu, yn cynnwys masnachu ag India.

Ar farwolaeth Richard Crawshay yn 1810, daeth William Crawshay II yn rheolwr gweithfeydd Cyfarthfa a Hirwaun.