Richard Crawshay
Diwydiannwr a pherchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful oedd Richard Crawshay (1739 – 27 Mehefin 1810).
Richard Crawshay | |
---|---|
Ganwyd | 1739 Normanton |
Bu farw | 27 Mehefin 1810 |
Galwedigaeth | metelegwr |
Plant | William Crawshay I |
Ganed ef yn Normanton, Swydd Efrog, ac aeth i Lundain lle daeth yn farsiandïwr cefnog. Priododd Mary Bourne yn 1763, a chawsant fab, William, a thair merch, Anne, Elizabeth a Charlotte. Symudodd i Ferthyr, a chafodd lês Cyfarthfa ar farwolaeth Anthony Bacon. Datblygodd ef y gwaith haearn yn sylweddol, a bu ganddo ran bwysig yn y gwaith o adeiladu Camlas Morgannwg, i gario'r haearn i ddociau Caerdydd.
Nid oedd gan ei fab, William Crawshay I, lawer o ddiddordeb yn y gweithfeydd haearn, gan ganolbwyntio ar agweddau eraill o fusnes y teulu. Ar farwolaeth Richard Crawshay yn 1810, daeth ei ŵyr, William Crawshay II, yn rheolwr Cyfarthfa.
Roedd ganddo gysylltiadau teuluol a nifer o ddiwydianwyr pwysig eraill. Roedd yn ewythr i Crawshay Bailey a'i frawd Joseph Bailey, ac roedd ei ferch Charlotte yn briod â Benjamin Hall (1778-1817). Claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.