William Evans (Patagonia)
Addysgwr ac arweinydd cymdeithasol ym Mhatagoni oedd William Evans (10 Awst 1851 – Mehefin 1931).[1]
William Evans | |
---|---|
Ganwyd | 1851 |
Y dyddiau cynnar
golyguGanwyd William Evans ar 10 Awst, 1851 ym Mhont Garreg, Tre-lech, Sir Gaerfyrddin. Ei rieni oedd Thomas a Mary Evans, a bu ei fam farw pan roedd William tua deg oed. Pan yn ugain oed gadawodd y fferm a symudodd i Pentre, Rhondda Cynon Taf i weithio mewn pwll glo. Ar 27 Medi, 1874, priododd Elizabeth Davies, merch Daniel a Mary Davies, Felin Newydd, Cynwyl Gaeo.
Ymfudo
golyguYn 1875 ymfudont i Batagonia lle adeiladodd William dŷ mawr o frics ar ei fferm, Maes yr Haf, Bryn Gwyn. Rhwng 1876 a 1897 ganwyd un-ar -ddeg o blant iddynt. Bu dau o feibion William ac Elizabeth yn gweithio i'r 'Co-operative' yn y Gaiman. Bu un ohonynt, Tomas, yn Arolygwr Cwmni Masnachol Chubut am lawer o flynyddoedd a hefyd yn Ynad Heddwch am gyfnod. Roedd William Evans yn uchel ei barch yn y gymuned Gymreig a bu'n allweddol yn datblygu a gwella Dyffryn Chubut, yn enwedig gyda dyfrhad. Bu'n Ysgrifennydd y 'Co-operative' am lawer o flynyddoedd yn ogystal â bod yn gyfrifol am adeiladu'r capel cyntaf yn yr ardal. Roedd hefyd yn athro Ysgol Sul ac yn Arholwr. Bu'n gefnogwr o'r Symudiad Addysg ac yn allweddol yn adeiladu Ysgol Uwchradd yn y Gaiman.
Llyfryddiaeth
golygu- Neidio am lan; Companion to the Welsh Settlement in Patagonia. Awdur: Eirionedd A. Baskerville, 2014. Cymdeithas Cymru Ariannin.
Dolennau allanol
golyguHafan Cymdeithas Cymru-Ariannin Archifwyd 2015-08-23 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Eirionedd A. Baskerville (2014). [http://www.cymru-ariannin.com/uploads/companion_to_the_welsh_settlement_in_patagonia.pdf Companion to the Welsh Settlement in Patagonia].