William Jones (telynor)

Telynor Cymreig oedd William Jones (bl. tua 1700 - 1720), a oedd yn frodor o blwyf Llansantffraid Glan Conwy (Sir Conwy) yn rhan isaf Dyffryn Conwy. Roedd yn enwog yn ei ddydd yng ngogledd Cymru fel telynor medrus.[1]

William Jones
Galwedigaethtelynor Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.

Hanes golygu

Telynor teulu proffesiynol yng ngwasanaeth teulu'r Mostyniaid ym Mhlas Gloddaeth yn y Creuddyn, ger Llandudno, oedd William.[1]

Cofnodir hanes am ei ddiwedd sy'n debyg i chwedl werin. Un noson yr oedd gwledd fawr yn y Gloddaeth a William yn diddanu'r gwesteion. Ar ganol y wledd ymadawodd y telynor heb air gan adael ei delyn ar ôl yn y neuadd ac ni welwyd ef ar ôl hynny na chlywyd dim o gwbl o'i hanes gan neb.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947).