William Lucas Collins
Offeiriad Eglwys Loegr ac awdur o Gymru oedd William Lucas Collins (23 Mai 1815 – 24 Mawrth 1887).[1]
William Lucas Collins | |
---|---|
Ganwyd | 1815 Oxwich |
Bedyddiwyd | 23 Mai 1815 |
Bu farw | 24 Mawrth 1887 Lowick |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd, llenor, cofiannydd, cyfieithydd, diwinydd, ysgolhaig clasurol |
Plant | William Collins |
Cefndir
golyguGanwyd Collins yn Oxwich, Bro Gŵyr yn blentyn i John Collins, rheithor Llanilltud Gŵyr, ac Elizabeth (née Lucas) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol Rugby a Choleg yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd gyda gradd BA yn y clasuron ym 1838 a gydag MA ym 1840.[2]
Gyrfa
golyguCafodd ei ordeinio'n offeiriad ym 1840 a rhoddwyd iddo fywoliaeth Cheriton, Abertawe yn yr un flwyddyn gan ddal y fywoliaeth hyd 1867. Gwasanaethodd Collins fel curad Great Houghton, Swydd Northampton (1853-1862), lle bu yn gwasanaethu fel yr arolygydd addysg esgobaethol. Ym 1867 rhoddwyd bywoliaeth Kilsby, Swydd Northampton iddo. Cyfnewidiodd bywoliaeth Kilsby am reithoriaeth Lowick, ger Thrapston, Swydd Northampton ym 1873, a ddaliodd ar y cyd â bod yn ficer Slipton o 1876 ymlaen. O 1870 roedd hefyd yn ganon anrhydeddus yn Eglwys Gadeiriol Peterborough.[2]
Teulu
golyguPriododd Anna Frances, merch John Wood, Berthlwyd, Llandeilo, ym 1840. Roedd yr awdur Clifton Wilbraham Collins [3] a'r awdur a chricedwr William Collins [4] yn feibion iddynt.
Gyrfa lenyddol
golyguYn ogystal â bod yn glerigwr gwledig cafodd Collins yrfa lenyddol, a ddechreuodd yn fuan ar ôl ei ordeinio pan ddaeth yn gyfrannwr rheolaidd i'r Blackwood's Magazine. Roedd ei erthyglau cynnar yn son am fywyd yn y brifysgol, ond daeth i wneud arbenigedd o erthyglau ar yr ysgolion bonedd hynafol. Anogodd John Blackwood, perchennog y cylchgrawn, ef i ddechrau adolygu; ei adolygiadau craff o nofelau George Eliot oedd ei waith mwyaf arwyddocaol.[2]
Bu Collins hefyd yn olygydd cyfres lyfrau lwyddiannus Gwasg Blackwood's, Ancient Classics for English Readers, gan gynnwys bod yn awdur naw cyfrol o'r gyfres. Ym mysg ei gyfraniadau personol i'r gyfres oedd y cyfrolau ar Iliad, Homer (1870) [5] a Thucydides (1878).[6]
Marwolaeth
golyguBu farw yn rheithordy Lowick yn 71 mlwydd oed.
Cyhoeddiadau
golygu- The Public Schools : Winchester Westminster Shrewsbury Harrow Rugby: Notes of their History and Traditions (1867)
- Virgil Ancient Classics for English Readers (1870)
- Livy Ancient Classics for English Readers (1870)
- Homer: the Odyssey Ancient Classics for English Readers (1870)
- Homer : the Iliad Ancient Classics for English Readers (1871)
- Aristophanes Ancient Classics for English Readers (1872)
- Cicero Ancient Classics for English Readers (1873)
- Lucian Ancient Classics for English Readers (1875)
- Thucydides Ancient Classics for English Readers (1878)
- Montaigne Foreign Classics for English Readers (1879)
- Butler Philosophical Classics for English Readers (1881)
- La Fontaine and Other French Fabulists Foreign Classics for English Readers (1882)
- Plautus and Terence Ancient Classics for English Readers (1882)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "COLLINS, WILLIAM LUCAS (1815 - 1887), clerigwr ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-18.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Collins, William Lucas (1815–1887), Church of England clergyman and author | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2019-11-18.
- ↑ Venn, John (2011-09-15). Alumni Cantabrigienses: A Biographical List of All Known Students, Graduates and Holders of Office at the University of Cambridge, from the Earliest Times to 1900. Cambridge University Press. ISBN 9781108036122.
- ↑ "At the Circulating Library Author Information: William Edmund Wood Collins". www.victorianresearch.org. Cyrchwyd 2019-11-18.
- ↑ Collins, William Lucas. The Iliad.
- ↑ Collins, William Lucas (1878). Thucydides. William Blackwood.