William Collins
Roedd William Edmund Wood Collins (16 Mehefin 1848 - 7 Ionawr 1932) yn gricedwr dosbarth gyntaf Gymreig ac yn awdur nofelau.
William Collins | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mehefin 1848, 1848 Cheriton |
Bu farw | 7 Ionawr 1932, 1932 Heacham |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofelydd, cricedwr, llenor |
Tad | William Lucas Collins |
Priod | Margaret Stopford Sackville |
Chwaraeon |
Cefndir
golyguCafodd Collins ei eni ym mhentref Cheriton, Bro Gŵyr. Roedd yn fab i'r traethodydd, llenor ac offeiriad William Lucas Collins,[1] ac Anna Frances, (née Wood) ei wraig. Roedd yn frawd i'r awdur Clifton Wilbraham Collins [2] Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Radley, a Choleg yr Iesu, Rhydychen [3]
Teulu
golyguPriododd Margaret Elizabeth Stopford-Sackville yn eglwys St George, Hanover Square, Llundain ym 1882, bu iddynt un ferch.
Gyrfa
golyguBu Collins yn gweithio fel athro ac wedyn prifathro ysgolion breifat ac ysgolion paratoi.
Gyrfa griced
golyguNi chafodd Collins gyfle i chware criced dosbarth cyntaf i Brifysgol Rhydychen, gan fod chwaraewyr o Goleg y Trwyn Pres yn dominyddu'r ochr yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr.[4] Chwaraeodd griced dosbarth cyntaf am y tro cyntaf ym 1884, pan ymddangosodd yn nhîm Boneddigion Lloegr yn erbyn Prifysgol Rhydychen yn ninas Rhydychen. Chwaraeodd eto i Foneddigion Lloegr ym 1886, y tro hwn yn erbyn I Zingari (gair Eidaleg am y sipsiwn, tîm cymysg o Awstraliaid a Saeson) yng Ngŵyl Scarborough ym 1886.[5] Roedd yn cael ei barchu’n fawr gan C I Thornton a gwahoddwyd Collins ganddo i chwarae i XI yr Arglwydd Londesborough yn erbyn Tîm criced cenedlaethol Awstralia yn yr ŵyl. Yn y gêm daeth Collins i fatio yn rhif un ar ddeg, gan sgorio 56 o rediadau allan o gyfanswm innings cyntaf XI yr Arglwydd Londesborough o 558.[6] Chwaraeodd eto yng Ngŵyl Scarborough ym 1887 mewn dwy gêm dosbarth cyntaf, i Foneddigion Lloegr yn erbyn I Zingari ac i'r De yn y gêm rhwng Gogledd a De Lloegr. Gwahoddwyd ef i chwarae i dîm criced Prifysgol Rhydychen Ddoe a Heddiw yn erbyn yr Awstraliaid teithiol yn Leyton ym 1888, gan lwyddo i sgorio 6 am 35 yn y gystadleuaeth gyntaf yn erbyn Awstralia. Daeth ei ymddangosiad olaf o'r dosbarth cyntaf dair blynedd yn ddiweddarach ar gyfer XI H. Philipson yn erbyn Prifysgol Rhydychen. Ar draws saith gêm dosbarth cyntaf, fe sgoriodd Collins 157 o rediadau ar gyfartaledd o 19.62, ac wrth fowlio cymerodd 19 wiced ar gyfartaledd bowlio o 23.57.[7]
Gyrfa lenyddol
golyguYn ogystal â chwarae criced, roedd Collins yn cyfrannu'n rheolaidd at y cylchgrawn Blackwood's Magazine a chyhoeddodd ddwy nofel wedi'u gosod ym Mhrifysgol Rhydychen: The Don and the Undergraduate (1899) ac A Scholar of his College (1900).[1][4]
Marwolaeth
golyguBu farw Collins ym mis Ionawr 1932 yn Heacham, Norfolk Swydd Norfolk.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "At the Circulating Library Author Information: William Edmund Wood Collins". At the Circulating Library. Cyrchwyd 2019-08-05.
- ↑ Venn, John (2011-09-15). Alumni Cantabrigienses: A Biographical List of All Known Students, Graduates and Holders of Office at the University of Cambridge, from the Earliest Times to 1900. Cambridge University Press. ISBN 9781108036122.
- ↑ Oxford University Calendar. University of Oxford. 1871. t. 356.
- ↑ 4.0 4.1 "Wisden - Obituaries in 1932". ESPNcricinfo. Cyrchwyd 2019-08-05.
- ↑ "First-Class Matches played by William Collins". CricketArchive. Cyrchwyd 2019-08-05.
- ↑ "Lord Londesborough's XI v Australians, 1886". CricketArchive. Cyrchwyd 2019-08-05.
- ↑ "Player profile: William Collins". CricketArchive. Cyrchwyd 2019-08-05.