William Morris (1705–1763)
llythyrwr a llysieuegwr
(Ailgyfeiriad o William Morris (1705-1763))
Llenor a llysieuegydd o Ynys Môn oedd William Morris (6 Mai 1705 – 29 Rhagfyr 1763). Ef oedd y trydydd o'r pedwar brawd a adwaenir fel Morysiaid Môn.
William Morris | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mai 1705 Ynys Môn |
Bu farw | 29 Rhagfyr 1763 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | botanegydd |
Tad | Morris ap Rhisiart |
Mam | Margaret Morris |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Morris.
Bywgraffiad
golyguGaned William Morris yn y Fferem, ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r-beirdd. Bu yn Lerpwl am gyfnod cyn cael ei benodi yn gasglydd y doll ym mhorthladd Caergybi yn 1737; bu yng Nghaergybi hyd ei farwolaeth.
Roedd yn llysieuegydd a naturiaethwr galluog, a'i waith ef yn bennaf sy'n sail i Welsh Botanology gan Hugh Davies. Roedd hefyd yn gasglwr a chopïwr llawysgrifau, ac yn amlwg yng Nghymdeithas y Cymmrodorion.
Llyfryddiaeth
golygu- Tua dwy ran o dair o'r llythyrau yn y cyfrolau The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris (dwy gyfrol, 1907, 1909) a Additional Letters of the Morrises of Anglesey (dwy gyfrol, 1947, 1949), gol. gan J. H. Davies