William Williams (Gwilym Cyfeiliog)
bardd, englynwr, ac emynydd
Bardd ac emynydd Cymraeg oedd William Williams, neu Gwilym Cyfeiliog (4 Ionawr 1801 – 3 Mehefin 1876). Roedd yn frodor o ardal Cyfeiliog ym Maldwyn, Powys.
William Williams | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Gwilym Cyfeiliog ![]() |
Ganwyd | 4 Ionawr 1801 ![]() Winllan, Llanbryn-mair ![]() |
Bu farw | 3 Mehefin 1876 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Ganed Gwilym Cyfeiliog ym mhlwyf Llanbryn-mair yn 1801. Agorodd siop yn y pentref lle gwerthai wlân lleol.[1]
Fel bardd, cyfansoddodd y rhan fwyaf o'i gerddi ar y mesurau caeth traddodiadol, yn enwedig yr englyn. Cystadleuodd mewn eisteddfodau mawr a bychain gan ennill enw iddo'i hun fel un o englynwyr gorau'r oes. Fel emynydd, fe'i cofir yn bennaf am yr emyn sy'n dechrau 'Caed trefn i faddau pechod'.[1]
Roedd ei fab, Richard Williams (1835-1906) yn hynafiaethydd a olygodd ail argraffiad y Royal Tribes of Wales gan Philip Yorke.[1]
Llyfryddiaeth golygu
- Caniadau Cyfeiliog (1878). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.