Philip Yorke
Hynafiaethwr o Gymru oedd Philip Yorke (29 Gorffennaf 1743 – 19 Mawrth 1804), a aned yn Erddig, ger Wrecsam. Mae'n adnabyddus fel awdur y gyfrol The Royal Tribes of Wales (1799), sy'n drysorfa o wybodaeth i achyddwyr.
Philip Yorke | |
---|---|
Arfbais y teulu yn Eglwys Sant Sannan, Llansannan | |
Ganwyd | 30 Gorffennaf 1743 (yn y Calendr Iwliaidd) Erddig |
Bu farw | 19 Mawrth 1804 Erddig |
Man preswyl | Erddig |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr |
Tad | Simon Yorke |
Mam | Dorothy Hutton |
Priod | Elizabeth Cust, Diana Wynne |
Plant | Simon Yorke |
Gwobr/au | Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr |
Bywyd a gwaith
golyguAr ôl astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt a Lincoln's Inn, etifeddodd ystâd Erddig yn 1767. Daeth yn gymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethwyr yn 1768. Priododd â merch Piers Wyn o Ddyffryn Aled yn 1782.
Am ei fod yn hannu o linach arglwyddi Uwch Dulas, daeth i ymddiddori yn achau teuluoedd uchelwrol y Gororau a Gogledd Cymru a'u hanes. Ffrwyth gyntaf ei ymchwil oedd y gyfrol Tracts of Powys (1795), gwaith sy'n cynnwys ymosodiad ar farn Polydore Vergil ar ddilusrwydd hanes traddodiadol Cymru fel y'i ceir yng ngwaith Sieffre o Fynwy.
Ond prif waith Yorke yw'r gyfrol The Royal Tribes of Wales, sy'n dal i fod yn ffynhonnell bwysig i haneswyr. Mae'n cynnwys achau a hanes Pymtheg Llwyth Gwynedd a'u disgynyddion.
Roedd Yorke yn rhigymwr medrus hefyd; cyhoeddwyd ei gasgliad o rigymau doniol fel Crude Ditties ymhell ar ôl ei farwolaeth, yn 1914.
Llyfryddiaeth
golyguGwaith Yorke
golygu- Tracts of Powys (Llundain, 1795)
- The Royal Tribes of Wales (Llundain, 1799; ail argraffiad gan Isaac Foulkes, Lerpwl, 1887)
- Crude Ditties (1914)
Llyfrau amdano
golygu- Albinia Cust, Chronicles of Erthig on the Dyke (1914)
Dolenni allanol
golygu- The Royal Tribes of Wales, argraffiad Isaac Foulkes, ar gael fel testun neu ffeil PDF ar wefan Internet Archives.